Dw i'n ar fy ffordd adre. Ar ôl bron deng mis dw i'n ar y trên yn ôl i Abertawe. Ar ôl misoedd yn Thailand a Siapan, wythnosau yn Tsiena, De Corea a Rwsia ac ychydig o amser ym Mongolia, Belarws, Gwlad Pol, Yr Almaen, Ffindir, Sweden, Denmark ac yr Iseldiroedd, Malaysia, Singapore a Laos dw i'n cyrraedd yn fuan yng Nghymru i weld fy nheulu. Ddoe es i i weld optegydd oherwydd fy sbectol wedi eu brifo mewn damwain tn Siapan. Bydda i'n casglu sbectol newydd mewn pythfenos yn Llundain ond mae rhaid i fi gael rhai newydd cyn i fi ailddechrau gweithio neu yrru i waith, felly mae Roland wedi eu prynu nhw ac heddiw byddwn nhw, gobeithio, cyrraedd.
So, bydd y hen fywyd yn dechrau eto. Ond hefyd, bydd e'n wahanol. Dw i'n sîwr fy mod i wedi newid, dw i'n sîwr ei fod e wedi newid. Amina'r ddau a bydd tipyn o culture shock, neu culture clash. Sai'n gwybod sut bydd e'n ymddangos, ond gobeithio na fydd problemau mawr.
Friday, 22 December 2017
Monday, 11 December 2017
Nid ydy popeth yn mynd i'r cynllun
Ar ôl penwythnos anhygoel, llawer o fwyd, hanes, cerdded, ffrindiau, cyfoethogrwydd, gyda Milla a Terhi, yn Helsinki, daeth yr amser i adael y ddinas ar y fferi i Stockholm, Princess Anastasia.
Prynais y tocyn ar y we. Nid wrth y cwmni fferi ei hun, St Peter's Line ond wrth fath o gwmni bwcio, Direct Ferries, sy'n rhedeg y byd yn rhoi gwybodaeth a gwasanaethau i deithwyr fferi. Tua phythefnos yn ôl. Wel, prynais rywbeth. Aeth yr arian o fy manc ond ni ddaeth un rhywbeth o St Peter's Line. Daeth neges o Direct Ferries i ddweud, Wps, rhywbeth wedi digwydd! Dych i mwyn (sori Milla!) ein bod ni'n trio eto? Wedi talu, wrth gwrs!
Felly, ar ôl dibyn, daeth neges o Direct Ferries, yn gynnwys rhif bwcio, gyda nhw, a rhif bwcio St Peter's Line a rhai manylion. Ond dim enw o'r Llong, neu ba Terminal. A, mwy difrifol, dim neges o St Peter's Line ei hun.
Dwedodd yr e-bost bod rhaid i fi gyrraedd y porth 180 munud cyn hwylio. 180 MUNUD! Tair awr, 05.30 yn y bore. Wnes i sgrechian i Roland, a Milla, ymhen deng munud. Wnaeth Roland ymchwil. Na, dim ond 90 munud, awr a hanner, 7.00. Roedd yr e-bost o Direct Ferries yr un cyffredin, dim meddwl pa gwmni. Mae St Peter's Line yn dweud 90 munud. Dyna well.
Pa Terminal? F'ymchwilwr gorau, Roland, wedi darganfod, Terminal 1. Wedi anfon google map gyda co-ordinates. Mae Milla a fi wedi gadael ei fflat tua 06.10 a wedi cymryd y tram i'r borth a wedi dod o hyd terminal 1. Oedd e bron yn wag, dim ond gwrp bach o Almaenwyr, ac nid oedd Check In yn agor, ond nid oedd e 7.00 eto. 7.00, agorwyd Check In. Aeth arwainwraig yr Almaenwyr. Aethon ni, gyda fy neges wrth Direct Ferries. Rhaid i chi fynd i Terminal 2, 700 metr lan y stryd. Aethon ni, yn gyflym. Yn Terminal 2 roedd llawer o bobl, yn mynd i Tallinn, gyda Tallink ac Ekoburg, ond doedd dim arwydd o St Peter's Line. A nid oedd arwydd neu berson gyda gwybodaeth i'n helpu ni. Wnaethnon ni stopio dyn a dangos yr e-bost. Nid oedd e'n o gymorth. Trion ni ffonio St Peter's Line. Dim ond mewn oriau busnes. Yr oedd y stres yn codi! Roedd y munudau yn mynd hebio.
Yn y diwedd aethon ni i gwmni arall, Tallink. Ei Check In wedi cau, ond oedd merch hyfryd a oedd yn deall ein problem ac oedd yn fodlon i'n helpu ni. Pa gwmni? St Peter's Line. Dych chi'n gwybod enw'r llong? Princess Anastasia. Tipyn o ymchwil ar ei chyfrifiadur. Mae flin 'da fi ond mae rhaid i chi ddychwelyd Terminal 1.
Felly, aethon ni'n ôl. Darllenodd y ferch yr e-bost yn fwy gofalus, a wnaeth hi Boarding Pass. Ond nid oedd ymddiheuriad.
Aeth Milla a fi lan yr escalator ac arhoson ni am biti, cyn agorwyd boarding. Ac, yn y diwedd, oedd popeth yn iawn.
Milla, y mae WiFi ar gael, gyda Marinesat. Roedd e ar gael ar y fferi Shanghai i Kobe. 50 Yuan, tua €6, 72 awr. Ar Princess Anastasia, $13.99, 6 awr. Does dim rhif neu docyn 24 awr! Byddaf i'n byw hebddo fe am dipyn.
Wednesday, 22 November 2017
Dw i wedi anghofio...
Dw i wedi anghofio, yn hollol, y syniad o ysgrifennu rhywbeth bach, llai na chant, neu bumdeg o eiriau, yn gymraeg, cyn i fi ysgrifennu rhywbeth ar Facebook. Anghofiol ydw i!
Ysgrifenwyd a'r fferi, bron wedi cyrraedd Vladivostok. Fy ngham nesa yw fynd i'r orsaf trên a phrynu tocyn, rhad, i Foscow. Os mae'n gadael heno, byddwn i hapus. Os na fydda, byddwn i hapus hefyd. Ffrindiau newydd a'r ferri, wedi prynu eu thocynau am 70 euros yr un. Trydydd dosbarth. Dw i'n meddwyl am ail ddosbarth. Mwy o arian, mwy o brifetwydd.
Ysgrifenwyd a'r fferi, bron wedi cyrraedd Vladivostok. Fy ngham nesa yw fynd i'r orsaf trên a phrynu tocyn, rhad, i Foscow. Os mae'n gadael heno, byddwn i hapus. Os na fydda, byddwn i hapus hefyd. Ffrindiau newydd a'r ferri, wedi prynu eu thocynau am 70 euros yr un. Trydydd dosbarth. Dw i'n meddwyl am ail ddosbarth. Mwy o arian, mwy o brifetwydd.
Sunday, 5 November 2017
Gyda phwy gwrddais i ar Shikoku?
Gyda merch â Saesneg da. Ymwelodd hi â Loegr blynyddoedd yn ôl. Roedd hi'n aros gyda fi pan ro’n i’n yn y Swyddfa Bost ddoe yn anfon pecynnau mawr gytre’ - i fod yn siŵr y ferch tu hwnt y cownter a fi oedd yn deall ein gilydd. O leiaf tri chwarter awr! Ac, ar ôl popeth, roedd hi’n cynnig lifft i fi yn ôl i fy llety.
Gyda dyn o Frasil heb Siapaneaidd, heb Saesneg, heb ffÔn symudol a llysieuol hefyd. Roedd e`n dechrau ei daith `henro` (pererindod) y diwrnod nesa ac oedd e` n meddwl am gerdded 38 cilometr, prynu ei ddillad, ffon, het ayyb ac ymweld ag 11 teml, popeth rhwng 9 a 5. Gobeithio ro’n ni’n llwyddiannus ei berswadio i feddwl dwywaith
Gyda menyw a oedd yn mynnu mynd â fi i deml 66, 67, 81 ac 82 ymhen un ddiwrnod. Oherwydd ei charedigrwydd roedd fy siwrnai ddau ddiwrnod yn gyflymach
Roedd hi’n gwrthod un yen am y 1000 yen (gyda gostyngiad oherwydd fy mhasbort, un yen am fy nghinio bach, ac, ar fy niwrnod olaf yn ei thref, aeth hi â fi i’r orsaf trên (llai na chilometr) a rhodd hi phwrs i fi, gyda sanau, fflanen, bag plygu, dau gerdyn post a 10,000 o yen. (£70)
Gyda dyn a ro’n i’n meddwl oedd henro, i ddechrau, ond naddo, oedd e’n byw yn yr ardal, rhwng temlau 42 a 41. Pan gwrddon ni, ar y ffordd, roedd dwy broblem `da fi. O’n i newydd sylweddoli bo` fi wedi gadael fy ffon yn deml 42 a ro’n i’n fwy na hanner ffordd rhwng y ddau, ac roedd angen mawr i fi fynd i'r tŷ bach. Cyn i fi gyrraedd teml 41 (42 i 41? paid gofyn!) mae fy angel wedi, dangos i fi'r llwybr cywir i'r deml, wedi dreifio yn ôl i deml 42 i gasglu fy ffon, wedi dod a grawnwin i fi, ac, ar ôl i fi gweddïo yn y deml, wedi fy ngyrru i'r deml nesa, 43!
Gyda dyn ifanc ag oedd yn stopio ei gar i rhoi tun o de gwyrdd i fi.
Gyda hen ddyn ag oedd yn rhoi, fel osettia (anrheg grefyddol?) 100 yen. Ymhen deng munud daeth e yn ôl gyda 1000 yen!
Gyda menyw ar y bws ag oedd yn rhoi pot nwdl i fi!
Gyda henros o Daiwan, Siapan, Denmarc, America, yr Eidal. Gyda’r heddlu a meddyg ar ôl fy namwain. Gyda phobl ar y trenau a bysiau. Gyda pherchnogion y llety. Gyda gweithwyr yn y canolfannau twristiaid, gyda’r artist yn 7Eleven.
Gyda Francesca, nyrs arall, yn dianc y GIG am biti, wedi seiclo o Fanceinion i Siapan. Ysbrydoliaeth yw hi!
A bron pob un ohonynt wedi bod yn garedig iawn. Wedi rhoi amser, losins, cymorth. Wedi cadarnhau amserau bws, wedi ffonio fy llety nesa, wedi egluro pethau i fi. Dw i wedi mwynhau dros ben, f’amser ar Shikoku a dw i’n drist iawn i'w gadael trannoeth.
Gyda dyn o Frasil heb Siapaneaidd, heb Saesneg, heb ffÔn symudol a llysieuol hefyd. Roedd e`n dechrau ei daith `henro` (pererindod) y diwrnod nesa ac oedd e` n meddwl am gerdded 38 cilometr, prynu ei ddillad, ffon, het ayyb ac ymweld ag 11 teml, popeth rhwng 9 a 5. Gobeithio ro’n ni’n llwyddiannus ei berswadio i feddwl dwywaith
Gyda menyw a oedd yn mynnu mynd â fi i deml 66, 67, 81 ac 82 ymhen un ddiwrnod. Oherwydd ei charedigrwydd roedd fy siwrnai ddau ddiwrnod yn gyflymach
Roedd hi’n gwrthod un yen am y 1000 yen (gyda gostyngiad oherwydd fy mhasbort, un yen am fy nghinio bach, ac, ar fy niwrnod olaf yn ei thref, aeth hi â fi i’r orsaf trên (llai na chilometr) a rhodd hi phwrs i fi, gyda sanau, fflanen, bag plygu, dau gerdyn post a 10,000 o yen. (£70)
Gyda dyn a ro’n i’n meddwl oedd henro, i ddechrau, ond naddo, oedd e’n byw yn yr ardal, rhwng temlau 42 a 41. Pan gwrddon ni, ar y ffordd, roedd dwy broblem `da fi. O’n i newydd sylweddoli bo` fi wedi gadael fy ffon yn deml 42 a ro’n i’n fwy na hanner ffordd rhwng y ddau, ac roedd angen mawr i fi fynd i'r tŷ bach. Cyn i fi gyrraedd teml 41 (42 i 41? paid gofyn!) mae fy angel wedi, dangos i fi'r llwybr cywir i'r deml, wedi dreifio yn ôl i deml 42 i gasglu fy ffon, wedi dod a grawnwin i fi, ac, ar ôl i fi gweddïo yn y deml, wedi fy ngyrru i'r deml nesa, 43!
Gyda dyn ifanc ag oedd yn stopio ei gar i rhoi tun o de gwyrdd i fi.
Gyda hen ddyn ag oedd yn rhoi, fel osettia (anrheg grefyddol?) 100 yen. Ymhen deng munud daeth e yn ôl gyda 1000 yen!
Gyda menyw ar y bws ag oedd yn rhoi pot nwdl i fi!
Gyda henros o Daiwan, Siapan, Denmarc, America, yr Eidal. Gyda’r heddlu a meddyg ar ôl fy namwain. Gyda phobl ar y trenau a bysiau. Gyda pherchnogion y llety. Gyda gweithwyr yn y canolfannau twristiaid, gyda’r artist yn 7Eleven.
Gyda Francesca, nyrs arall, yn dianc y GIG am biti, wedi seiclo o Fanceinion i Siapan. Ysbrydoliaeth yw hi!
A bron pob un ohonynt wedi bod yn garedig iawn. Wedi rhoi amser, losins, cymorth. Wedi cadarnhau amserau bws, wedi ffonio fy llety nesa, wedi egluro pethau i fi. Dw i wedi mwynhau dros ben, f’amser ar Shikoku a dw i’n drist iawn i'w gadael trannoeth.
Friday, 6 October 2017
Siapan yw gwlad o anrhegion
Siapan yw gwlad o anrhegion. Pan oedd fy mam a fi yn Siop Blue and White, yn Tokyo, roedd anrheg bach o frethyn yn ogystal â'r brethyn a brynwyd gan fy mam. Pan aethon ni mewn stiwdio cwiltiau, heb ddweud o blaen, roedd anrheg bach. Yn y stiwdio gweaf, drws nesa, yn un peth. Yn y 'nagomi visits' roedd mwy o frethyn, pethau bach o origami. Ond, ar Shikoku, gwlad o 'henro', pererinion, mae pethau yn fwyach. Arian. Ffrwyth. Diod. Origami. Pot noodle yn ddiwetha. Llosins. A ddoe? Lifft i'r deml nesa. Mae'n anodd i ddweud sut dw i'n teimlo. Gallwn ni ddim eu gwrthod. Dyn ni'n rhoi cyfle i bobl i fod yn garedig. Fel arfer dw i'n ffili rhoi 'nameslip' yn ôl achos pethau'n digwydd mor gyflym. Y bai yw arna i.
Saturday, 30 September 2017
Dydd Iau, y chweched o fy ngherfded o gwmpas Shikoku ro'n i'n croesi pont enfawr ar ddiwedd y dydd. Yn y bore gadaewais Kochi youth hostel, fy nghartref am wythnos i gymryd y bws i'r orsaf ar bwys teml 32, Zenjibuji. Ymwelais â hi dydd Mercher felly cerddais i syth at deml 33, Seikkiji a 34, Tanemaji. Doedd dim llety yno felly roedd rhaid i fi parhau i Tosa. Roedd y dywydd yn hyfryd ac ro'n i'n cario fy rucsac am y tro cyntaf. Ges i llawer o 'osettia', anrhegion bach, yn ystod y dydd. Llosins, te gwyrdd mewn tin, tangerin. Cwrddais dynion o Siapan, pererinion eiraill, pan ro'n ni'n aros am fferi bach. Roedd y dydd yn dda!
Chwarter wedi pedwar ac ro'n i'n ar y bont. Mae'n enfawr, gyda pafin mawr, dim llawer o drafnidiaeth ar y pryd. Roedd yr dyn ifancach Siapaneg, tua pum munud ar fy nghefn i. Gallwn i weld Tosa yn y bellter. Nid oedd y cynllun i ymweld â theml 36, doedd dim amser. Ond roedd popeth yn dda.
Ac ymhen hanner eiliad ro'n i'n ar y lawr, gyda lwmp mawr ar fy nhalcen, uwchben fy llygad chwith. Beth diwyddodd? Wnes i ddim golli ymwybyddiath, diolch byth, neu torri fy spectol, ond gallwn i ddim eu gwisgo oherwydd y lwmp. Ond roedd y rucsac ar fy nghefn o hyd felly roedd rhaid i fi dechrau eistedd, cyn sefyll. Nid o'n i gwisgo yr het, mae'n anodd gyda'r rucsac ar y un tro. Ond daeth menyw ifanc i fy helpu. Welais ei beic hi. Gyda llawer o le ar y pafin mae hi wedi llwyddo fy mwrw i i'r lawr.
Roedd hi, a fi, mewn sioc! Pan welodd fy mod i ddim o Siapan, 'Sori, sori!' Gaeth hi help i fi i symud fy mag. Daeth y henro (pererin yn Siapan) arall ac rhoiodd dwr i olchi fy llaw chwich, y nwcls, a fy mhenelin, y ddau wedi gael eu hysgrafio. Ond roedd fy mhen y waethaf, gyda poen a'r lwmp yn tyfu.
Ond, ymlaen! Nid oedd llawer o waed. Allwn i ddim aros. Roedd rhaid i fi ffeindio rhwle i aros. Pan es i i mewn y dre, cerdded, welais yr ail pererin, y hynaf. Oedd e'n mynd i'r deml ond, ar yr ail tro, roedd gwely ar gael yn Tosa Business Hotel.
Ymhen awr roedd cwmni iswiriant, dwy awr tri heddwas a thair awr yr ysbyty.
Ond dyna stori arall! Dw i'n iawn. Paid a phoeni amdana i.
Tuesday, 19 September 2017
Tuesday, 12 September 2017
Fy mam ac ein ffrind Kazumi ac ei merch yn hyfraith
Felly, oedd ddoe'n hyfed. Mae cymni bach yn trefnu ymweliadau ar gyfer dieithriaid i dai a theuluoedd Siapaneg, er mwyn croesaui pobl i Siapan a chael profiadau diwyllianol.
Cwrddwyd ni gan Kazumi ar orsaf trên agosaf i'w thŷ hi, Neyagawashi, ac ro'n ni'n dim ond tair mynud un hwyr, ar ôl daith hir dros Kyoto tuag Osaka. Aethon ni yn ei char hi at ei thŷ le cwrddon ni ei mab (meddyg), ei wraig (linguist, mam a gwraig tŷ) ac eu meibion bach nhw.
Ymhen pum munud ar ôl wedi cyrrhaedd, roedd reis sushi ar y bordd gyda nori, a llysiau fel moron, madarch, ciwcwmbr wedi eu torri mewn rhannau hir a chul, crab sticks, sliced omled wedi torri, ac oedden ni gwneud sushi. Ymhen hanner awr oedden ni'n ei fwyta.
Ymhen dwy awr oedd fy mam yn gwisgo kimono grand, ac edmygu y waith arbenning o dda o'n host. Mae hi'n gwneud textiliau gwych, patchwork, cwiltiau, pethau bach o hen gimono ei fam ac ei hun. Rojedd y prynhawn arbennig o dda.
Os dych chi'n mynd i Siapan, Nagomivisit.com. Bydd ymweliad arall dydd Sul nesa tn Tokyo.
Wednesday, 6 September 2017
Mae wedi bod môr hyfred i weld fy mam yma yn Shanghai. Hedfanodd hi o Lundain nos Fawrth a chyrhaeddais i o Wuhan ddoe. Dyn ni'n aros yn Hostel Phoenix tan dydd Sadwrn cyn iddi ni mynd â'r fferi i Siapan. Daeth hi gyda dau gerdyn debit, un gerdyn SIM sy'n drud iawn ond sy'n gweithio yn Siapan, un gerdyn YHA ac un tocyn i gyfnewid, yn Siapan, am ddefnyddio ar yr rheilffyrdd. Drud iawn eto. Neithiwr ro'n ni'n ar llong bach ar yr afon, gyda miloedd o bobl eraill ond nid oedd e'n boeth, y tro cyntaf am fisoedd.
Ysgrifennwyd wythnos diwetha yn Shanghai le, yn ogystal â difyg o FB, does dim Blogger hefyd, fel rhan o byd Google. Nawr dyn ni'n yn Kyoto yn Siapan.
Ysgrifennwyd wythnos diwetha yn Shanghai le, yn ogystal â difyg o FB, does dim Blogger hefyd, fel rhan o byd Google. Nawr dyn ni'n yn Kyoto yn Siapan.
Friday, 18 August 2017
Collais, ddoe, fy ail gerdyn debit. Siŵr o fod gan ei adael yn yr ATM ar y ffin rhwng Thailand a Laos. Ond, gyda Skype ar fy ffôn symudol, dw i wedi ei ganslo a gobeithio bydd popeth yn iawn. Y cerdyn cyntaf oedd ym Melarws, nôl ym mis Mawrth. Gobeithio bydd dwy yn cyrraedd Roland ymhen wythnos, ymlaen at fy mam yn Llundain a gyda hi i Shanghai gan ddiwedd y mis.
Saturday, 12 August 2017
Mae Ploy'n caru Charlie o hyd.
Mae Ploy wedi cadw popeth wedi ganwyd gan Charlie. Ei lyfrau, ei gyfrifiadur, ei fag. Llun gan ein mam. Ei lun o'r amlosgiad ac ei ludw. Ac mae hi wedi creu coeden deuluol hefyd.
Wednesday, 2 August 2017
Monday, 31 July 2017
Yr Eleffantod ac y Big C
Dydd Gwener diwetha, gwyl cyhhoeddus, aethon ni i siop o'r enw Big C. Maen nhw'n dod yn wreithiol o France, o dan yr enw Carrefour. Sai'n gallu dychmygu dyfodol llwyddianus ym Mhridain gyda ein cysulltiadau rhwng canser a'r Big C yn Saesneg.
Ac ar y ffordd adre welon ni eleffantod gwyrdd.
Ac ar y ffordd adre welon ni eleffantod gwyrdd.
Thursday, 27 July 2017
Mae plant yn hoffi anifeiliaid...
... ond does dim cyfle cadw anifeiliaid yn ystafell Ploy a Putt yma yn Surat Thani. Does dim gardd ac maen nhw'n gadael y tŷ am mwy na deg arw y diwrnod. Oherwydd, mae Putt yn mwynhau ei ymweliadau i Tha Sala a thŷ ei famgu a thadcu. Mae brawd Ploy yn byw drws nesa, yn y hen dŷ ei rhieni, gyda ei deulu o wraig a phump o blentyn. Dydd Llun diwetha roedd ffrind newydd yn aros am Putt.
Saturday, 8 July 2017
Ar fy ffordd 'nôl o'r pwll nofio.....,....
.....dw i'n gweld pethau diddorol. Ar draed y grisiau y pwll yw allor Hindŵaidd.
Nesa, ar draws y stryd, siop lleol. Mae Mart Teulu, Tesco Lotus a 7 Eleven ym mhoban. Pob un gyda'i ermig (periant) pwyso, ATM, a pheriant tocyn ffôn. Tu hwnt Mart Teulu dych chi'n gallu weld Gwesty 'One Hotel'. Mae Ken, Fy mhartner Siapanaidd, yn aros yma.
Rownd yr ail gornel yw fy hoff ddraig mewn teml Tseineaidd.
Nesa, ar draws y stryd, siop lleol. Mae Mart Teulu, Tesco Lotus a 7 Eleven ym mhoban. Pob un gyda'i ermig (periant) pwyso, ATM, a pheriant tocyn ffôn. Tu hwnt Mart Teulu dych chi'n gallu weld Gwesty 'One Hotel'. Mae Ken, Fy mhartner Siapanaidd, yn aros yma.
Rownd yr ail gornel yw fy hoff ddraig mewn teml Tseineaidd.
Friday, 30 June 2017
Siapaneg
Ers mis dw i wedi bod yn dysgu Siapaneg. Nid ydy mor anodd ond dw i'n siwr fy mod i'n dysgu fersion siml iawn. Dw i'n defnyddio, achos does dim Say Something in Japanese, eto, modd Michel Thomas, a Memrise a Duolingo. Dw i wedi cwrdd â dyn o Siapan, sy'n dod i'r pwll nofio yn rheolaidd a dw i'n ymarfer brawddegau siml iawn gyda fe ac mae'n ymarfer gwella ei llafarsain Saesneg gyda fi. Chwarae Teg. Nid oes tystysgriff gyda fi am fod athrawes, ond dw i'n dysgu pobl trwy'r amser. Tair wythnos yn ôl rhoiodd e bryd o fwyd i fi, Ploy a Putt, cyncydweithiwr a ffrind cyncydweithiwr yn y westy ble mae'n byw ers ei ymddeoliad. Roedd e'r rheolwr ffatri rwber am saith mlynedd ac oedd e'n hanner perchennog y ffatri hefyd. Y dyddiau hyn mae'n dysgu Saesneg, Thai ac yn cadw'n heini gan nofio chwewaith yr wythnos a chwarae tenis dwywaith.
Wednesday, 14 June 2017
Tuesday, 30 May 2017
Dw i wedi pleideisio....
A dyma'r amlen gyda fy newis. Bydd yr amlen yn gadael Surat Thani yfory a dw i'n gobeithio ei bod hi'n cyrraedd Caerfyrddin mewn amser
Friday, 26 May 2017
Cnau Coco
Nid oes cymaint o farwolaethau o cnau coco fel pobl yn meddwl. Ond swn syrthio cnau coco yn debyg i ergyd. Mae Ysgol Hyfforddiant Monkey ychydig y tu allan Surat Thani, lle maen nhw'n cael eu hyfforddi i gasglu cnau coco. Dw i ddim yn siwr os byddaf yn ymweld.
Friday, 19 May 2017
Rambutan a'r Gymdoges
Dyma gymdoges Ploy a Putt. Mae hi'n byw ar yr un lôn ac mae hi'n gyfeillgar iawn. Ambell waith dw i'n ei gweld hi gyda'i gwr ben bore yn aros am fynachod ar y stryd i roi bwyd iddynt. Gaeth ei gwr damwain ar ei feic modur a nawr mae'n defnyddio cadair olwyn. Yn ystod y dydd mae hi'n gwerthu ffrwyth a llysiau a neithiwr oedd Rambutan ar werth.
Wednesday, 17 May 2017
Rhifau Ymwelwyr
Dyma'r rhifau'r ymwelwyr i'r deml Tsieniadd, ar y ffordd i'r pwll nofio. Mae'r ymwelwyr yn gwisgo gwyn ac mae'r 'swagging' o'i chwmpas yn felyn ac oren yn lle du a gwyn fel pob teml arall, er cof y Brenin.
Monday, 15 May 2017
Mae llawer o wyliau cyhoeddus yn Thailand
Ac ar yr un diwetha aeth Ploy, Putt a fi i'r ynys. Cerddais i, fel arfer, a daethon nhw ar feic modur Ploy, a oedd beic modur Charlie tan ei farwolaeth ar yr un beic. Doedd dim trwywyddeb ganddo fe a does dim un gyda hi nawr ond pythefnos yn ôl gaeth Ploy ei ddal gayr heddlu ac ymhen wythnos bydd hi'n gael ei hyfforddiant. Na fydd prawf ymarferol ond o leiaf bydd hi'n gyfreithlon.
Dyma'r picnic bwyton ni ar y dydd.
Dyma'r picnic bwyton ni ar y dydd.
Thursday, 11 May 2017
Bob bore am 8 o'r gloch
Monday, 8 May 2017
Mae'n ratach i brynu ia
Siŵr o fod, mae'n rhatach i brynu ia na chadw rhewgell. Bob bore dw i'n mynd heibio ffatri fach le maen nhw'n gwneud ia, a bron bob bore dw i'n gweld bocs neu ddwy o ia di-werthu a'r palmant.
Sunday, 7 May 2017
Tuesday, 2 May 2017
Does dim gair Topiary yn y Gymraeg
...ond mae rhywun wedi ei ddechrau o gwmpas un o lawer o demlau, 'r un ar bwys y bont dros yr afon Tapi.
Sunday, 30 April 2017
Bu farw y Brenin mis Hydref diwetha
ac ers hynny mae 'swagging' gwyn a du ar bob adeilad, neu swyddogol, yn Thailand. Bydd yr angladd, a'r Brenin newydd cael ei goroniad mis Hydref nesa.
Thursday, 27 April 2017
Tuesday, 25 April 2017
Pwy Sy'n gwybod beth yw hynny?
Welodd Roland a fi rheini yn India amser maith yn ôl. Mae tad Ploy yn ysmygu hefyd ond mae mab/nai Ploy, un ar ddeg blwydd oed, wedi dechrau gyda'r pethau uwchben yn barod. Mae mam Ploy yn defnyddio rheini, ers blynyddoedd, siwr o fod.
Sunday, 23 April 2017
Ar fy mhen fy hun...
Os fy mod i'n bwyta mewn tŷ bwyta yn Tseina, ar fy mhen fy hun, bydda i gael fy eistedd gyda ffrind unig.
Friday, 21 April 2017
Tuesday, 18 April 2017
Monday, 17 April 2017
Dŵr
Does dim rhaid i ofyn am ddŵr yma. Ar y trenau maen nhw'n dod â diod bob yn ail awr. Yn y gwestai mae'r dŵr yn aros yn yr ystafelloedd. Yn y tai bwyta mae'r dŵr yn ymddangos gyda'r fwydlenni. Ond, os ti'n aros mewn ystafell rhad, fel fi'r wythnos hon, does dim dŵr yn y pris ac roedd rhaid i fi brynu fe. Y rhattach gallwn i ffeindio oedd 46 baht. tua £1.10) am ddwsin o foteli 600ml mewm Tesco Lotus Express lawr y stryd ar fy ffordd nôl o'r ynys yn yr afon bore 'ma.
Subscribe to:
Posts (Atom)