Monday 31 October 2016

Pam rydw i'n gadael waith yn hwyr heddiw, a bob bore?

Wel, gyda llawer o nyrsys sy'n gweithio ar gyfer asiantaethau a'r niferoedd o nyrsys newydd ar y ward yn tyfu. Mae'r cleifion yn cwrdd â nyrsys newydd beunyddiol. Felly, mae rhaid i fi eu cyflwyno nhw gyda'i gilydd. Mae rhaid i fi egluro'r siartiau a'u problemau iechyd. I ddweud sut maen nhw'n cerdded neu fwyta.

Ond heddiw collais ddarn bach o bapur. Dim ond darn, ond darn pwysig. Mae rhaid y GIG yn cadw fe am 30 o flynyddoedd. Roedd rhaid i fi ei llenwi fe, lofnodi fe, a'i anfon yn ôl i swyddfa. Hanner awr o chwilio mewn biniau cyn i fi fe ffeindio mewn basn cardbord ar fin cael ei daflu mewn macerator.

Felly, dyma reswm nid es i nofio bore 'ma. Ond yfory, bydd rheswm arall,  a'r dydd nesa.

Saturday 22 October 2016

Cofio Aberfan

Dw i newydd 'sgrifenni ar y fforwm SSIW am Aberfan. Dw i ddim yn cofio'r dydd, y dagrau, y digwyddiad, ond sa i'n gallu cofio amser cyn i fi wybod am y trychineb. Ro'n i'n pump oed ar y tro a byddai fy rhieni wedi ein gwarchod, a'u hunain, yn erbyn y newyddion. Oherwydd, mae'r cysgod Aberfan wedi fy nghysgodi fy holl fywyd. Dim yn gryf, dim yn aml, ond nawr, wrth gwrs, mae'n o flaen y newyddion. Dw i'n cofio gwneud ymchwil deng mlynedd yn ôl, 40 mlynedd ar ôl y digwyddiad ac erbyn hynny o'n ni'n byw yng Nghymru. Welais i raglenni a chlipiau ar y teledu ac ar Youtube. 

Ges i f'atgoffa o ddigwyddiadau yn Tsieina dros y blynyddoedd. Plâu, trychinebau gydag elfennau ac achosion dynol. Ysgolion wedi'u hadeiladau mewn ardaloedd daeargrynfâu, i'r safonau isel, i osgoi gwario arian, fel rhan o system lygredig. 

Bydd yr arian yn ennill bob tro a bydd y tlawd yn dal yn dioddef.

Saturday 15 October 2016

Roedd rhaid i fi dalu £17.80....

achos dw i ddim yn mynd i'r llyfrgell cymaint â dylwn.

Roedd y camgwl achos fy mod i wedi cadw dau lyfr am fisoedd. Cymraeg, y ddau ohonynt, ond roedd eu prisiau i gyd llai na £17.80. Mae llyfrgelloedd Sir Gar yn cael fy nghyfeiriad e-bost ond ni ddaeth unrhyw neges i ddweud am  yr arian. Mewn tŷ gyda chymaint o lyfrau mae'n haws i'u golli nhw am sbel.

Saturday 8 October 2016

Cymdeithas Edward Llwyd

Es i am dro heddiw gydag  aelodau Cymdeithas Edward Llwyd yn ardal Cwmifor ar bwys Llandeilo. Aeth tri deg ohonom am daith o bum milltir  lan bryniau, lawr bryniau,  dros sticlau a nentydd. Mae rhaid i fi ddysgu sut i gerdded gyda ffon.

Ar y ffordd cwrddon ni defaid Jacob golygus hyn.

Friday 7 October 2016

Collon ni...

Neu daethon ni ail.

Roedd Pete a fi mewn cystadleuaeth heddiw ac roedd bag mawr o losins haribo yn yr ystafell gwyrdd. Bydd 'Llyncu Geiriau' ar y teledu ar ôl Nadolig a dych chi'n gallu ein weld ni ffili gwybod am Shaking Stevens, eirin gwlanog, siocled a geiriau o'r gair 'Perthnasau'. Hefyd, dych chi'n gallu weld ni'n gwybod am Steven Hawkin, cyfieithu geiriau, a Nigeria.
Rydyn ni wedi ennill mwg a geiriadur bach yr un. A ffi hefyd. Diolch i Gwmni Boom.

Wednesday 5 October 2016

Nid Oedd Dosbarth Heno ...

Gyda'r aildrefnu addysg Gymraeg a gyda phethau'n rhedeg yn hwyr iawn mae'n anodd dychmygu sut bydd y llywodraeth yn cyrraedd i'w rhif miliwn siaradwyr Cymraeg gan 2050. Aeth tri ohonom i'n dosbarth cyntaf y tymor heno. Mae nhw'n angen pump. Bydda i chwilio am ddosbarth arall. Mae llai o ddewis gyda'm cyd-ddysgwyr oherwydd eu swyddi. Diolch byth am www.saysomethinginwelsh.com gyda'u ffordd o ddysgu heb rifau o ddysgwyr arall. SSIW yw rheswm dw i'n yma, mewn bywyd.cymru.

Saturday 1 October 2016

Heddiw gorffenais i wau Moubius Band. Mae'n fath o sgarff gyda (dim ond) un ochr, ymyl ac un wyneb. Maen nhw'n eitha cymhleth i wneud a mwy cymhleth i egluro ond maen nhw'n brydferth i wisgo. Wnes i nyddu'r gwlân hefyd a bydd y sgarff yn cyrraedd Much Dewchurch wythnos nesa, gyda lletywraig le arhosais i gyda menyw o Awstralia yn ystod yr Eisteddfod.