Sunday 25 December 2016

Y Daith Fawr

Dw i wedi newydd brynu fy nhocyn cyntaf ar gyfer fy nhaith fawr i Asia. Felly, nawr, mae rhaid i fi fynd! Mae rhaid i fi orffen siarad amdano fe a dechrau gwario arian difrifol! Roedd cynnig gan Eurostar os prynais docyn cyn diwedd heddiw. Ar ôl tipyn o drafferth gyda thechnoleg (cyfrifiadur, argraffwr a thaliad ar lein) rydyn ni bod yn llwyddiannus a nawr bydd fy nhocyn cyntaf yn mynd â fi o Lundain i Ferlin, trwy Brussels a Cologne ar 4ydd Mawrth. Bydd fy ngham nesa i brynu tocyn i Warsaw.

Wednesday 21 December 2016

Beth Fraint!

Dw i wedi cael y fraint , ers dydd Gwener diwetha, i gwrdd â theulu newydd gyrraedd o Syria, teirgwaith.
Does dim llawer o Saesneg gyda nhw, ond mwy Saesneg na fy Arabeg. Maen nhw'n yma ar y cynllun llywodraeth San Steffan i dderbyn 20,000 teuluoedd o'r gwersylloedd yn y Canol Dwyrain yn ystod y pum mlynedd nesa. Yn ôl y ffigurau does dim rhaid i Sir Gar i dderbyn mwy nag ugain o deuluoedd ond dw i'n mwyn llongyfarch pwy bynnag wedi awgrymu i'r cyngor i dderbyn chwedeg, ac i'r cyngor sy wedi derbyn y syniad yn unfrydol. Mae'r teulu mor neis, mor garedig, mor awyddus i ddysgu Saesneg, i weithio.
Daethon nhw i fy nhŷ heddiw i ddefnyddio'r ein Wi Fi i siarad â theulu yn Iraq ac yr Almaen. Bwyton nhw fwyd coginiwyd gan fy ngŵr a phan es i â nhw gartre roedd rhaid i fi dderbyn bwyd wedi eu coginio gan fam y teulu. Gyda dim byd, maen nhw'n rhoi o'u calonnau.

Tuesday 6 December 2016

Gwasanaeth Taize yn yr eglwys heno.

Ar ôl symud i Gymru dw i'n cofio bod yn eitha anhapus gyda beth oedd yn ar gael yn lleol yn fy mywyd ysbrydol. Dw i'n cofio gofyn i'r caplan yn yr ysbyty am wasanaethau Taize, ac, or ôl tipyn, daeth gwybodaeth am ddigwyddiad mewn eglwys mawr yng Nghaerfyrddin. Roedd eglwys bach yn y cefn gwlad, tu hwnt y cefn gwlad, yn cynnig Gwasanaeth Taize. Yn ogystal â'r awr yng Nghaerfyrddin roedden nhw cael eu ddigwyddiadau eu hunain teirgwaith y flynydd yn eu heglwys. Felly, wnes i ddechrau gyrru trwy'r mynyddoedd Brechfa yn eitha gyson. Wel, mae pethau wedi newid, pobl wedi symud ymlaen, a does dim sôn am Taize yn Llanfihangel Rhos y Corn nawr. Ond, yn y cefn gwlad tu hwnt y cefn gwlad, mae labrinth nawr. Dw i'n mynd â bron bob ymwelwr i weld y'r adeilad, y fynwent a'r labrinth.

Sawl blwyddyn yn ôl daeth gwasanaethau Taize i'r ardd fotaneg. Roedden nhw poblogaidd iawn ac oedden nhw'n codi arian ar gyfer Cytûn, eglwysi gweithio gyda'u gilydd yn Nghymru. Ar ôl tair gwasanaeth symudodd y ficer ymlaen a fi oedd yr arweinydd am tua blwyddyn. Ron i'n rhedeg dau yn fwy lleol hefyd, yng Ngorslas ac yn Cross Hands. Roedd rhaid i ganslo y trydydd pan dorrais fy ngoes a ni dechreuais eto.

Tan nawr. Neithiwr. Roedd rhaid i fi brynu recorder newydd, a lyfrau Taize newydd. Ond, mae Taize wedi dychwelyd i fy mywyd!  Dw i'n wrth fy modd!

Sunday 4 December 2016

Mae cystadleuaeth 'da ni bob blwyddyn...



..ac roedd hyn fy ymgais ddoe.
Caethon ni 45 gram o ffibr gwlân du, Blue Faced Leicester, a gallwn ni gwneud unrhyw beth gyda fe, i orffen gyda llai na 200 o ramau.
Roedd tu mewn i'r nyth y gwlân du, a'r tu allan oedd sidan. Gwnes i chwe wy gyda gwlân ac ychwanegais sidan i'r wyneb. Yn gynnwys â'r wyau yn y nyth yw skein hanner gwlân a hanner sidan wedi'u ply (plied) gyda'i gilydd. Ar y nyth yw aderyn gwlân.