Wednesday 22 November 2017

Dw i wedi anghofio...

Dw i wedi anghofio, yn hollol, y syniad o ysgrifennu rhywbeth bach, llai na chant, neu bumdeg o eiriau, yn gymraeg, cyn i fi ysgrifennu rhywbeth ar Facebook. Anghofiol ydw i!
Ysgrifenwyd a'r fferi, bron wedi cyrraedd Vladivostok. Fy ngham nesa yw fynd i'r orsaf trên a phrynu tocyn, rhad, i Foscow. Os mae'n gadael heno, byddwn i hapus. Os na fydda, byddwn i hapus hefyd. Ffrindiau newydd a'r ferri, wedi prynu eu thocynau am 70 euros yr un. Trydydd dosbarth. Dw i'n meddwyl am ail ddosbarth. Mwy o arian, mwy o brifetwydd.

Sunday 5 November 2017

Gyda phwy gwrddais i ar Shikoku?

Gyda merch â Saesneg da. Ymwelodd hi â Loegr blynyddoedd yn ôl. Roedd hi'n aros gyda fi pan ro’n i’n yn y Swyddfa Bost ddoe yn anfon pecynnau mawr gytre’ - i fod yn siŵr y ferch tu hwnt y cownter a fi oedd yn deall ein gilydd. O leiaf tri chwarter awr! Ac, ar ôl popeth, roedd hi’n cynnig lifft i fi yn ôl i fy llety.

Gyda dyn o Frasil heb Siapaneaidd, heb Saesneg, heb ffÔn symudol a llysieuol hefyd. Roedd e`n dechrau ei daith `henro` (pererindod) y diwrnod nesa ac oedd e` n meddwl am gerdded 38 cilometr, prynu ei ddillad, ffon, het ayyb ac ymweld ag 11 teml, popeth rhwng 9 a 5. Gobeithio ro’n ni’n llwyddiannus ei berswadio i feddwl dwywaith


Gyda menyw a oedd yn mynnu mynd â fi i deml 66, 67, 81 ac 82 ymhen un ddiwrnod. Oherwydd ei charedigrwydd roedd fy siwrnai ddau ddiwrnod yn gyflymach

Roedd hi’n gwrthod un yen am y 1000 yen (gyda gostyngiad oherwydd fy mhasbort, un yen am fy nghinio bach, ac, ar fy niwrnod olaf yn ei thref, aeth hi â fi i’r orsaf trên (llai na chilometr) a rhodd hi phwrs i fi, gyda sanau, fflanen, bag plygu, dau gerdyn post a 10,000 o yen. (£70)

Gyda dyn a ro’n i’n meddwl oedd henro, i ddechrau, ond naddo, oedd e’n byw yn yr ardal, rhwng temlau 42 a 41. Pan gwrddon ni, ar y ffordd, roedd dwy broblem `da fi. O’n i newydd sylweddoli bo` fi wedi gadael fy ffon yn deml 42 a ro’n i’n fwy na hanner ffordd rhwng y ddau, ac roedd angen mawr i fi fynd i'r tŷ bach. Cyn i fi gyrraedd teml 41 (42 i 41? paid gofyn!) mae fy angel wedi, dangos i fi'r llwybr cywir i'r deml, wedi dreifio yn ôl i deml 42 i gasglu fy ffon, wedi dod a grawnwin i fi, ac, ar ôl i fi gweddïo yn y deml, wedi fy ngyrru  i'r deml nesa, 43!

Gyda dyn ifanc ag oedd yn stopio ei gar i rhoi tun o de gwyrdd i fi.

Gyda hen ddyn ag oedd yn rhoi, fel osettia (anrheg grefyddol?) 100 yen. Ymhen deng munud daeth e yn ôl gyda 1000 yen!

Gyda menyw ar y bws ag oedd yn rhoi pot nwdl i fi!

Gyda henros o Daiwan, Siapan, Denmarc, America, yr Eidal. Gyda’r heddlu a meddyg ar ôl fy namwain. Gyda phobl ar y trenau a bysiau. Gyda pherchnogion y llety. Gyda gweithwyr yn y canolfannau twristiaid, gyda’r artist yn 7Eleven.

Gyda Francesca, nyrs arall, yn dianc y GIG am biti, wedi seiclo o Fanceinion i Siapan. Ysbrydoliaeth yw hi!

A bron pob un ohonynt wedi bod yn garedig iawn. Wedi rhoi amser, losins, cymorth. Wedi cadarnhau amserau bws, wedi ffonio fy llety nesa, wedi egluro pethau i fi. Dw i wedi mwynhau dros ben, f’amser ar Shikoku a dw i’n drist iawn i'w gadael trannoeth.