Saturday 30 September 2017







Dydd Iau, y chweched o fy ngherfded o gwmpas Shikoku ro'n i'n croesi pont enfawr ar ddiwedd y dydd. Yn y bore gadaewais Kochi youth hostel, fy nghartref am wythnos i gymryd y bws i'r orsaf ar bwys teml 32, Zenjibuji. Ymwelais â hi dydd Mercher felly cerddais i syth at deml 33, Seikkiji a 34, Tanemaji. Doedd dim llety yno felly roedd rhaid i fi parhau i Tosa. Roedd y dywydd yn hyfryd ac ro'n i'n cario fy rucsac am y tro cyntaf. Ges i llawer o 'osettia', anrhegion bach, yn ystod y dydd. Llosins, te gwyrdd mewn tin, tangerin. Cwrddais dynion o Siapan, pererinion eiraill, pan ro'n ni'n aros am fferi bach. Roedd y dydd yn dda!

Chwarter wedi pedwar ac ro'n i'n ar y bont. Mae'n enfawr, gyda pafin mawr, dim llawer o drafnidiaeth ar y pryd. Roedd yr dyn ifancach Siapaneg, tua pum munud ar fy nghefn i. Gallwn i weld Tosa yn y bellter. Nid oedd y cynllun i ymweld â theml 36, doedd dim amser. Ond roedd popeth yn dda.

Ac ymhen hanner eiliad ro'n i'n ar y lawr, gyda lwmp mawr ar fy nhalcen, uwchben fy llygad chwith. Beth diwyddodd? Wnes i ddim golli ymwybyddiath, diolch byth, neu torri fy spectol, ond gallwn i ddim eu gwisgo oherwydd y lwmp. Ond roedd y rucsac ar fy nghefn o hyd felly roedd rhaid i fi dechrau eistedd, cyn sefyll. Nid o'n i gwisgo yr het, mae'n anodd gyda'r rucsac ar y un tro. Ond daeth menyw ifanc i fy helpu. Welais ei beic hi. Gyda llawer o le ar y pafin mae hi wedi llwyddo fy mwrw i i'r lawr.

Roedd hi, a fi, mewn sioc! Pan welodd fy mod i ddim o Siapan, 'Sori, sori!' Gaeth hi help i fi i symud fy mag. Daeth y henro (pererin yn Siapan) arall ac rhoiodd dwr i olchi fy llaw chwich, y nwcls, a fy mhenelin, y ddau wedi gael eu hysgrafio. Ond roedd fy mhen y waethaf, gyda poen  a'r lwmp yn tyfu.

Ond, ymlaen! Nid oedd llawer o waed. Allwn i ddim aros. Roedd rhaid i fi ffeindio rhwle i aros. Pan es i i mewn y dre,  cerdded, welais yr ail pererin, y hynaf. Oedd e'n mynd i'r deml ond, ar yr ail tro, roedd gwely ar gael yn Tosa Business Hotel.

Ymhen awr roedd cwmni iswiriant, dwy awr tri heddwas a thair awr yr ysbyty.

Ond dyna stori arall! Dw i'n iawn. Paid a phoeni amdana i.

6 comments:

  1. Replies
    1. Dw i'n gwybod. I'm not safe to be let out alone!

      Delete
  2. Waw! Dydy hi ddim wedi bod â dwy lygaid du! Dw i'n hapus eich bod yn iawn. Gofalwch Margaret.
    Duw bendithia. ������

    ReplyDelete
  3. Oes update gyda Chi? Wyt ti'n Wendi dechrau cerdded ego?

    ReplyDelete
  4. Ydw, do. Roedd y 'danwain' dydd Iau, ar y ffordd i Tosa. Cerddais dydd Gwener i demlau 35 a 36. Arhosais nos Wener a nos Sadwrn mewn le hyfryd, gyda golygfeydd Pacific. Ddoe, dydd Sul, cerddais i Tosa Shinjō ac heddiw, oherwydd y law, des i gan trên a bws i 37 a 38. Ond, yn ôl Fitbit, wedi gwneud mwy na 10,000 cam. Yfory, trên a cherdded i 39.

    ReplyDelete
  5. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete