Gyda merch â Saesneg da. Ymwelodd hi â Loegr blynyddoedd yn ôl. Roedd hi'n aros gyda fi pan ro’n i’n yn y Swyddfa Bost ddoe yn anfon pecynnau mawr gytre’ - i fod yn siŵr y ferch tu hwnt y cownter a fi oedd yn deall ein gilydd. O leiaf tri chwarter awr! Ac, ar ôl popeth, roedd hi’n cynnig lifft i fi yn ôl i fy llety.
Gyda dyn o Frasil heb Siapaneaidd, heb Saesneg, heb ffÔn symudol a llysieuol hefyd. Roedd e`n dechrau ei daith `henro` (pererindod) y diwrnod nesa ac oedd e` n meddwl am gerdded 38 cilometr, prynu ei ddillad, ffon, het ayyb ac ymweld ag 11 teml, popeth rhwng 9 a 5. Gobeithio ro’n ni’n llwyddiannus ei berswadio i feddwl dwywaith
Gyda menyw a oedd yn mynnu mynd â fi i deml 66, 67, 81 ac 82 ymhen un ddiwrnod. Oherwydd ei charedigrwydd roedd fy siwrnai ddau ddiwrnod yn gyflymach
Roedd hi’n gwrthod un yen am y 1000 yen (gyda gostyngiad oherwydd fy mhasbort, un yen am fy nghinio bach, ac, ar fy niwrnod olaf yn ei thref, aeth hi â fi i’r orsaf trên (llai na chilometr) a rhodd hi phwrs i fi, gyda sanau, fflanen, bag plygu, dau gerdyn post a 10,000 o yen. (£70)
Gyda dyn a ro’n i’n meddwl oedd henro, i ddechrau, ond naddo, oedd e’n byw yn yr ardal, rhwng temlau 42 a 41. Pan gwrddon ni, ar y ffordd, roedd dwy broblem `da fi. O’n i newydd sylweddoli bo` fi wedi gadael fy ffon yn deml 42 a ro’n i’n fwy na hanner ffordd rhwng y ddau, ac roedd angen mawr i fi fynd i'r tŷ bach. Cyn i fi gyrraedd teml 41 (42 i 41? paid gofyn!) mae fy angel wedi, dangos i fi'r llwybr cywir i'r deml, wedi dreifio yn ôl i deml 42 i gasglu fy ffon, wedi dod a grawnwin i fi, ac, ar ôl i fi gweddïo yn y deml, wedi fy ngyrru i'r deml nesa, 43!
Gyda dyn ifanc ag oedd yn stopio ei gar i rhoi tun o de gwyrdd i fi.
Gyda hen ddyn ag oedd yn rhoi, fel osettia (anrheg grefyddol?) 100 yen. Ymhen deng munud daeth e yn ôl gyda 1000 yen!
Gyda menyw ar y bws ag oedd yn rhoi pot nwdl i fi!
Gyda henros o Daiwan, Siapan, Denmarc, America, yr Eidal. Gyda’r heddlu a meddyg ar ôl fy namwain. Gyda phobl ar y trenau a bysiau. Gyda pherchnogion y llety. Gyda gweithwyr yn y canolfannau twristiaid, gyda’r artist yn 7Eleven.
Gyda Francesca, nyrs arall, yn dianc y GIG am biti, wedi seiclo o Fanceinion i Siapan. Ysbrydoliaeth yw hi!
A bron pob un ohonynt wedi bod yn garedig iawn. Wedi rhoi amser, losins, cymorth. Wedi cadarnhau amserau bws, wedi ffonio fy llety nesa, wedi egluro pethau i fi. Dw i wedi mwynhau dros ben, f’amser ar Shikoku a dw i’n drist iawn i'w gadael trannoeth.
"A bron pob un ohonynt wedi bod yn garedig iawn."
ReplyDeleteAchos ti'n garedig hefyd. Ti'n seren. Taith da, fy ffrind fi!
Mae'r pobl yma yn garedig dros ben i henros ar yr ynys, nid dim ond i fi. Koya-san ddydd Mawrth, i ddweud diolch yn fawr i'r sant, Kobo Diashi, a, gobeithio, De Corea cyn dydd Iau.
Delete