Friday 18 August 2017

Collais, ddoe, fy ail gerdyn debit. Siŵr o fod gan ei adael yn yr ATM ar y ffin rhwng Thailand a Laos. Ond, gyda Skype ar fy ffôn symudol, dw i wedi ei ganslo a gobeithio bydd popeth yn iawn. Y cerdyn cyntaf oedd ym Melarws, nôl ym mis Mawrth. Gobeithio bydd dwy yn cyrraedd Roland ymhen wythnos, ymlaen at fy mam yn Llundain a gyda hi i Shanghai gan ddiwedd y mis.

No comments:

Post a Comment