Saturday 25 March 2017

Fy mwyd yn Mongolia

Dumplings cig, a chig yn gawl.
Noodles yn gawl, gyda chig a morchwyn
Mida a'i mam
Cacen, galed, fel bisged
Salat, bresych a moron
Salat ym morchwyn
Noodles a chig
Te, Mongolaidd. Dŵr, llaeth ac halen
Mwy o dumplings, wedi'u ffrio

Friday 24 March 2017

Gwyn am y llaeth...

Gwyn am y llaeth, a'r ffwrdd o fyw.
Coch am y tân.
Glas am yr awyr.
Gwyrdd am y tir,
a melyn am yr haul.

Lliwiau'r sgarffiau wedi'u rhoi i'r mynachod yn yr hen ddyddiau, ac wedi'u gadael yn y mynachdy heddiw.






Thursday 23 March 2017

Hen bethau, pethau newydd?



Os rydych chi'n dwyn dulliau o ysgrifennu oddi wrth y bobl rydych chi'n dwyn eu hanes, eu mytholeg, eu llyfrau, eu tafodau, eu calonnau. Newidiwyd y 'sgript' gan y sofietau o Fongolaidd i sirilic yn y pumdegau a nawr, er gwaetha'r wersi 'arbennig' does bron neb yn gallu darllen eu hen lyfrau, eu hen straeon, eu hen lythyron. Gyda phopeth yn y sgript newydd, maen nhw'n teimlo 'Beth ydy'r point?'
Swnio'n cyfarwydd?

Wednesday 22 March 2017

Mawrth 22, Mongolia

Bore hyfryd. Ar ôl brecwast gyda Mida, wedi ei wneud ganddi hi, es i i'r amgueddfa pysls yma yn Ulaan Baator, y brif ddinas. Yr amgueddfa breifat gyntaf yma. Ar y diwedd o'r daith arweiniedig o'i chwmpas cwrddais y sylfaenwr. Mae'r lle yn annisgwyl a phert. Pan ydych chi'n dod i UB, mae e'n am chi i ymweld â nhw hefyd.
Nesa i'r amgueddfa'r ddinas le welais gartwnau o'r cyfnod sofiet yn erbyn yr Americanwyr.






Ac wedyn, pryd o fwyd arall gyda Mida a'i mam, a welais fam yn gwneud llawer o bwdinau cawl bach.

Tuesday 21 March 2017

Rwsia, o'r trên, yn mis Mawrth, yn pumdeg o eiriau.

Afonydd eang, wedi'u rhewi.
Pibonwy oddi wrth yr adeiladau.
Hen ddynion ac hen wragedd yn gwerthu pethau diangen i bobl gyda chalonnau cyn oer â'r tywydd.
Mae'r trênau yn mynd o un le heb enw i'r nesa o dan llwyth miloedd o goed, y ffrwth yr wlad.

Wednesday 15 March 2017

Thailand, ond dim.eto.

Cwrddais ŵr ac ei wraig o Thailand bore ma. Heddiw oedd yr wyth degfed pen-blwydd y dyn ac oedd e am ddathlu gan fynd i wasanaeth mewn eglwys orthodox yma ym Moscow. Es i gyda nhw, atgoffais y wraig am wisgo rhywbeth ar ei phen. Prynon nhw canhwyllau ond gadawais cyn iddyn nhw adael. Dwedais wrthynt taw'r gwasanaeth orthodox yma oedd y peth agosach i wasanaeth Buddhaidd ym Moscow heddiw. Cytunon nhw.

Monday 13 March 2017

Stori fer yn 50 gair. Ysgrifenwyd mewn parc, Vitebsk

Pa Barc?
Yr un lawr y bryn, mawr, tywyll, cyfrinachol.
Neu'r llall, agored, digon o feinciau, rhai pobl.
Y fenyw sy'n eistedd drws nesa i fi, hi heb Gymraeg, fi heb Rwsieg, ond dyn ni'n rhannu'r mainc a'r haul, ac yn gwybod bod rydyn ni byth yn deall ein gilydd.

Sunday 12 March 2017

Dw i'n FB gormod...

Mae rhaid i fi cyffesu hynny. Dw i'n FB gormod, a dw i'n bwyta gormod. Ond nid ydw i'n siopa gormod. Wnes i ffindio fy hun yn y ganolfan siopa Tarasy Ztole gan y brif orsaf reilffordd Warsaw, synnu braidd gan y cyfan. Fel er bod un os bydd y canolfannau siopa mawr a welon ni yng Ngwlad Thai wedi cael eu croesi gyda'r tŷ gwydr mawr yn y gerddi botaneg a breuddwyd drwg gan MC Escher. A pham mae pobl (ok, un person) gerdded i fyny i fi ac yn dechrau siarad, yn syth, yn y Saesneg? Nid oedd hi'n hapus na fod i fwyn ei "hanrheg".

Saturday 11 March 2017

Beth ydy "Padlock" yn Gymraeg?

Mae'n debyg bod sawl geiriau am "Padlock" yn ar gael. Beth am
clo clap, clo clec, clo clwt, clo cramp, clo dibyn, clo llyffant (!), llyffanglo a marchglo. Beth bynnag, mae llawer ohonynt ar bontydd Vitebsk achos mae llawer yn mynd i rhoi nhw ar un, neu fwy, o'r saith pont, ar ddydd priodas. Dyma llun o rhai.
Ac, achos bod pawb yn hoffi cathod, dyma llun o Fenny, cath Jane Austen, a chath Stella, yn Vitebsk.

Friday 10 March 2017

Yr ail ryfel byd

Mae'n anodd iawn i osgoi'r ail ryfel byd ond gafodd 97 y cant Vitebsk ei ddinistrio gan yr Almaenwyr. Oedden nhw am ladd 70 y cant o'r boblogaeth a chad'r weddill fel caethweision. Fel anifeiliaid, doedd dim hawl i dal yn byw.

Ac yn y nawddegau roedd y peth gorau yn y byd i weld lluniau mewn cylchgronau ac yn dychmygu bod gallu fforddio prynu a bwyta pob math o gacennau.

Thursday 9 March 2017

Esperanto ~ Gobaith ~ Hope

Nid ydy pedwar awr digon yn yr amgueddfa am y hanes Iddewon yn Wlad Pôl. Sa i'n gallu dweud oedd y stori'n hapus neu lwyddiannus, ond mae'n ddiddorol dros ben. Wnes i bob math o gysylltiad rhwng eu hanes â'r stori ffoaduriaid ein hoes.

Tra gerdded nôl i'r hostel neithiwr welais sawl bws a oedd yn mynd i Esperanto. Mae'n debyg mae'n ardal yn Warsaw. A chofiais y stori a glywais echdoe. Gaeth Esperanto ei dyfeisio gan ddyn o Warsaw, sef Ludwik Zamenhof, Iddew. Mae'n hawsach na Chymraeg!


Tuesday 7 March 2017

Y Geto Iweddaidd

Roedd pedwar deg y cant o'r boblogaeth yn Warsaw yn byw yn ddwy'r cant o'r tir rhwng 1940 a 1943. Ti ddim wedi gwybod? Fi hefyd. Mae rhaid i fi ddysgu mwy o'r hanes o'r ail ryfel byd.

Monday 6 March 2017

Stori Fer. Ysgrifenwyd ar y trên rhwng Berlin a Warsaw.

"Dw i'n teithio ar fy mhen fy hun," gan Samuel Bjork. Ond mae hi'n teithio gyda Samuel Bjork, ei hanes ei hun, gyda gobeithion a phryderau ei theulu ac ei ffrindiau. Ac mae hi'n teithio gyda'r felltith ein oes, fel fi, ac yn cwyno am brinder cydymaith mewn ystafell teithwyr.

Sunday 5 March 2017

Pwy sy'n nabod Beth o Landeilo?

Hi oedd yr arweinydd taith cerdded o gempas Berlin heddiw a o'n i'n arno. Roedd hi'n arbennig o dda gyda'r hanes o'r dinas ac yn egluro beth oedd yn digwydd mewn cyfnodau gwahanol rhwng Prussia, yr Almaen, Russia, Gwlad Pol ayyb.
Aeth Beth i'r ysgol Tregib, nesa i brifysgol Warwick ac ers chwech mlynedd wedi byw ym Merlin. A mae hi'n siarad Cymraeg, wrth cwrs.

Saturday 4 March 2017

Dw i'n gadael heddiw.

Ar ôl misoedd yn paratoi, miloedd o bunoedd, ac wythnosau yn poeni am un fanwl neu fisa, dw i'n ar fy ffordd heddiw. Hanner awr yn ôl cyrhaeddodd fy mam a fi Kings Cross St Pancras ac ymhen awr bydda i rhwng Llundain a Brussels. Heno bydda, gyda gobaith, yn Berlin. Dw i'n nerfus a chryffrous. Dwedais Hwyl Fawr i fy ngwr a fy mab ddoe cyn aethon nhw nôl i Gymru ac echdoe oedd pryd o fwyd mawr gyda 15 ohonom. O fy ngwmpas fi yw canoedd o deithwyr eraill sy'n dechrau eu anturiaethau hefyd. Mae'r byd yn llawn gyda phobl i gwrdd a lleoedd i weld.