Sunday 30 April 2017

Bu farw y Brenin mis Hydref diwetha

ac ers hynny mae 'swagging' gwyn a du ar bob adeilad, neu swyddogol, yn Thailand. Bydd yr angladd, a'r Brenin newydd cael ei goroniad mis Hydref nesa.



Tuesday 25 April 2017

Pwy Sy'n gwybod beth yw hynny?

Welodd Roland a fi rheini yn India amser maith yn ôl. Mae tad Ploy yn ysmygu hefyd ond mae mab/nai Ploy, un ar ddeg blwydd oed, wedi dechrau gyda'r pethau uwchben yn barod. Mae mam Ploy yn defnyddio rheini, ers blynyddoedd, siwr o fod.

Sunday 23 April 2017

Ar fy mhen fy hun...

Os fy mod i'n bwyta mewn tŷ bwyta yn Tseina, ar fy mhen fy hun, bydda i gael fy eistedd gyda ffrind unig.



Friday 21 April 2017

Tuesday 18 April 2017

Trydan

Mae'r trydan yn rhedeg o bolyn i bolyn yn eu cannoedd. Hunllef!


Monday 17 April 2017

Dŵr

Does dim rhaid i ofyn am ddŵr yma. Ar y trenau maen nhw'n dod â diod bob yn ail awr. Yn y gwestai mae'r dŵr yn aros yn yr ystafelloedd. Yn y tai bwyta mae'r dŵr yn ymddangos gyda'r fwydlenni. Ond, os ti'n aros mewn ystafell rhad, fel fi'r wythnos hon, does dim dŵr yn y pris ac roedd rhaid i fi brynu fe. Y rhattach gallwn i ffeindio oedd 46 baht. tua £1.10) am ddwsin o foteli 600ml mewm Tesco Lotus Express lawr y stryd ar fy ffordd nôl o'r ynys yn yr afon bore 'ma.

Saturday 15 April 2017

Blwyddyn Newydd

Ebrill 15

Felly, echdoe, ar ddydd Blwyddyn Newydd, aethon ni i dŷ cymdogion rhieni Ploy i weiddi am enaid y ferch a fu farw llynedd. Roedd y gwasanaeth yn eitha fyr, tua ugain munud. Arweiniwyd y gweddïon gan leygwr er presenoldeb pum mynach. Ar ôl gorffennodd a dechreuodd pawb i fwyta, wnes i sylweddoli roedd y lleygwr tad Ploy.



Friday 14 April 2017

Tad Ploy

Mae tad Ploy yn defnyddio Paraquat a Glyphosphate yn ei waith dyddiol. Heb wyneb gosod am hanner ganrif, a gyda ers tair flynnedd. Mae'r botel paraquat yn parhau am hanner dydd, ond mae Papa yn ei ddefnyddio amair dwirnod, bob tymor. Ond mae'n gweithio ar gyfer ei gymdogion eto. 'Rubber tapper' yw e.




Wednesday 12 April 2017

Nofio yn y môr

Aeth chwech ohonom i'r traeth, i'r lleiaf roedd y daith rhy hir ac roedd iddo gael ei arweinio. 50 munud ar y ffordd. Ein ymweliad diwetha aethon ni i draeth agosach.

Mwy o gerrig nag o'n i'n disgwyl, ond, ar ôl chwilio, roedd llwybr rhwngddyn nhw i'r tawod a'r môr cynhesaf yn y byd. Well na, hyd yn oed, Tresaith ond gyda llai o Gymraeg.

Llosg haul roedd y canlyniad y dydd. Fy nghyntaf fy nhaith.


Tuesday 11 April 2017

Barddoniaeth Ddrwg

Mae diffyg o ddŵr
yn Ulaan Batoor,
a llawer o feiciau
yn Tsiena.
Mae gormod o boeth
yn Thailand,
ond ffrindiau pobman.

Monday 10 April 2017

Sens of Entitlement

Mae gen i "Sens of Entitlement," dw i'n siomedig i ddweud. Sa i'n hoffi fy hunan ar ôl i fi sylweddoli. Ar ôl wythnosau teithio heb broblemau o gwbl. Cyn i fi adael Brydain roedd popeth wedi'u trefnu. Pob tocyn, pob gwely, pob fisa tan cyrhaeddais i Kunming, 07.17 dydd Iau diwetha, ar ôl 23 awr ar y trên. Ac ers y pum dwirnod diwetha' mae pob cynllun, yn fy mhen, wedi'u mynd i'r wal.

Ro'n i'n disgwyl dod o hyd y metro yn Kunming i fynd i'r orsaf bws, ond wnes i ddim ei weld. Welais yr un orsaf bws canolig welon ni yn 2012 ond sa i'n cofio'r rhyf bws i fynd i'r orsaf bws de Kunming. Yn y ddiwedd, es i, ar ôl cyngor, ar y bws anghywir, i'r orsaf trên de Kunming. Yn yr orsaf bws drws nesa ges i gyngor well a bws arall i'r le cywir.

Felly, doedd dim tocyn ar gael i Huy Xai neu i Vientiane. Doedd dim unrhywun trio ffindio teithwyr eraill i fynd i Thailand. Roedd y wybodaeth yn awgrymu 20 bws y dwirnod i Jinghong, a sawl arall, tu hwnt, i Mahon(China)/Boten(Laos). Ond, ar y dwirnod, roedd un bws, i Mahon, yn gadael 8 o'r gloch yn y nos. 7 awr yn aros. I gyrraedd Mahon tua 12 neu 13 awr yn hwyrach.

Wel, 14 awr yn hwyrach, ro'n i'n yn Mahon. Yn ffoddus, nid oedd problemau ar y fin. Gadael China, prynu fisa i fynedu Laos. Mynd i Laos.

Mae'r llawer o lwch ac ormod o boeth, ond does dim bws, neu arwydd o fws, neu orsaf bws. Dw i'n ffeindio fy hun yn crwydro o gwmpas y le, yn y boeth dros ben, yn chwilio am wybodaeth. Yn y diwedd dw i'n cael fy anfon i'r siop enfawr Duty Free, llawn gyda thwristiaid sy'n dychwelyd i Tseina. Ond, rhai o'r weithwyr yn siarad Saesneg. Ac yr un gyda Saesneg gorau, yn rhoi gwybodaeth defnyddiol i fi. Os dw i'n sefyll ar y ffordd, gyda arwydd, Huy Xai, ac ymddangos yr arwydd i yrrwyr, efallai, bydd yr gyrwyr yn rhoi lifft i fi. Ac mae'n gweithio. Y tro cyntaf, gyda bws cyntaf.

Ar ôl 6 awr dw i'n ar y fin rhwng Laos a Thailand. Aros yn Laos, neu Thailand. Wnes i gamgymeriad am y diwedd y daith. Roedd e yn y dre neu ar ben Bont Cyfeillgarwydd? Oedd e yn y dre, ar ôl yr orsaf bws.

Lifft, wedi'i drefnu gan y gyrrwr, yn ôl i'r orsaf bws. Tuk Tuk, y gyntaf fy nhaith, i'r Bont. Eto, dim problem croesi'r fin. Ond mae'n hwyr nawr, a mae rhaid i fi talu arian ychwanegol oherwydd yr awr. Un dollar i adael Laos. 25 Baht, ac undeg pump mwy, i groesi'r Bont dros y Mekong. A dim problem, gyda fisa yn barod, mynedu Thailand. 60 baht, a 40 baht oherwydd yr awr, am Tuk Tuk i'r dre ei hunan. Dim problem ffeindio noson mewn gwest bach, ond roedd mwy o broblem yn gadael ddoe.

Pan cyrhaeddais i welais hysbyseb am sut i deithio i Chiang Mai. Ond nid oedd wybodaeth yn ogystal â'r hysbyseb, hyd yn oed fy cwestiynau. Yn ôl i'r WiFi. Mae bws yn gadael 10.30 yfory (ddoe). Cyn 9 yn y bore, ro'n i'n yn yr orsaf bws i brynu tocyn. Ond mae pob un wedi mynd. Does dim mwy ar gael tan yfory. Mae bws arall yn gadael,  ymhen hanner awr, o'r orsaf bws drws nesa, dim i Chiang Mai ond i Chiang Rai, a fydd mwy o fyses fynd i Chiang Mai. Mae rhaid i fi frysio ond gyda 30 o eiliaid, dw i'n ar y bws.

Dw i'n cyrraedd Chiang Rai i weld bws yn gadael am Chiang Mai. Dwy awr yn Chiang Rai o dan gysgod sy'n o dan yr boeth dros ben eto, cyn y bws nesa i Chiang Mai. Syth i'r orsaf trên. Yn ôl yr amserlen ar y we mae dwy trên eraill yn rhedeg heno I Bangkok. Ond, yn ôl y toccynwr, does dim trên, a mwy pwysig, does dim tocyn tan yfory/heddiw. A does dim tocyn o Bangkok i Surat Thani tan yfory. Felly, roedd rhaid i fi fynd yn ôl i'r dre. Gwesty cyntaf, £80 y nos. Dim i fi. Ail westy, le arhosais gyda Rachel, £26. Roedd 50 baht i'r bunt yn 2013, 42 nawr.

Bore ma, pan es i nôl i'r orsaf trên, roedd tocyn ar gael o Bangkok i Surat Thani, heno. Dim sleeper, mae rhaid i fi eistedd i Bangkok heddiw, 10 awr, ac o Bangkok heno, 9 awr.

Mae "Sens of Entitlement" 'da fi. Dw i'n disgwyl pethau yma i weithio fel 'clockwork', ond dw i ddim gatref ar hyn o bryd. Dw i wedi cael ail, ac ar fi yw'r bai. Fi yw person anrhesymol. Dw i wedi teithio i rhywle gwahanol ond yn disgwyl pethau i fod yn union fel adref.