Wednesday 23 November 2016

Mae'n anodd credu pa mor wahanol...

...oedd y ddau noson diweddaf. Ar un shifft roedd tair o phobl sâl iawn. Daeth un ohonomm yn sâl yn ystod yr oriau cyn dechreuodd fy shifft, roedd un yn sâl yn ystod y shifft ac roedd trydydd bron ar ffin i gael llawdriniaeth yn yr oriau man. Ond, roedd pawb dal yn byw yn y bore. A heno, mae popeth yn dawel...ssshhhhhhh. Peidiwch â  dweud, ond fy hoff shifft yw rhywle yn y ganol. Bob nos fel nawr? Diflas. Bob nos fel neithiwr?  Dim diolch. Ni fydd un nyrs,  neu glaf, yn haeddu nosonau fel hwnna.

Wednesday 9 November 2016

Sa i'n gallu dechrau disgrifio...

...fy nheimladau ar hyn o bryd. Mae'n eitha dawel ar y ward ond, mewn cornel, mae'r canlyniadau America yn cael eu cyhoeddi. Yn araf. Hi yw'r gyntaf, nawr fe yw'r cyntaf. Fe, sy ddim wedi rheoli neuadd y dre. Ddim wedi rhedeg am swydd. Sy'n meddwl bod e'n iawn broli am ymbalfalu menywod, menywod fel fy merch, neu dy nith neu chwaer. Sy'n meddwl am adeiladu wal yn erbyn ei gymydog drws nesa. Sy'n mwyn cofrestru pob Mwslim yn America, neu gadw nhw mas yn y lle cyntaf. Dw i'n gweddi ar hyn o bryd, ond, mae flin 'da fi i ddweud,  heb hyder.


Saturday 5 November 2016

Ar y trên i Lundain ...

Trên 1 - Tra aros yng Nghaerfyrddin welais fy ffrind Tony. Roedd e'n disgwyl Almaenwr (ifanc?) i helpu â'r fferm.

Trên 2, nawr. Roedd y cynllun i ddal y trên  yn Abertawe a mynd i Lundain heb newid trenau - ond - does dim rheolwr ar a trên hwn. Felly, symudwyd y teithwyr i drên lleol,  Abertawe i Gaerdydd - lle bydd rhaid i ni symud yn ôl i'r trên Abertawe - Lundain, gyda'i rheolwr, dw i'n gobeithio.

Ond (eto), mae Cymru newydd golli yn erbyn Awstralia a bydd miloedd o gefnogwyr anhapus ar ffin gadael â'r un pryd a fi.

Bydd caos!