Friday 22 December 2017

Dw i'n ar fy ffordd adre

Dw i'n ar fy ffordd adre. Ar ôl bron deng mis dw i'n ar y trên yn ôl i Abertawe. Ar ôl misoedd yn Thailand a Siapan, wythnosau yn Tsiena, De Corea a Rwsia ac ychydig o amser ym Mongolia, Belarws, Gwlad Pol, Yr Almaen, Ffindir, Sweden, Denmark ac yr Iseldiroedd, Malaysia, Singapore a Laos dw i'n cyrraedd yn fuan yng Nghymru i weld fy nheulu. Ddoe es i i weld optegydd oherwydd fy sbectol wedi eu brifo mewn damwain tn Siapan. Bydda i'n casglu sbectol newydd mewn pythfenos yn Llundain ond mae rhaid i fi gael rhai newydd cyn i fi ailddechrau gweithio neu yrru i waith, felly mae Roland wedi eu prynu nhw ac heddiw byddwn nhw, gobeithio, cyrraedd.
So, bydd y hen fywyd yn dechrau eto. Ond hefyd, bydd e'n wahanol. Dw i'n sîwr fy mod i wedi newid, dw i'n sîwr ei fod e wedi newid. Amina'r ddau a bydd tipyn o culture shock, neu culture clash. Sai'n gwybod sut bydd e'n ymddangos, ond gobeithio na fydd problemau mawr.

Monday 11 December 2017

Nid ydy popeth yn mynd i'r cynllun



Ar ôl penwythnos anhygoel, llawer o fwyd, hanes, cerdded, ffrindiau, cyfoethogrwydd, gyda Milla a Terhi, yn Helsinki, daeth yr amser i adael y ddinas ar y fferi i Stockholm, Princess Anastasia.


Prynais y tocyn ar y we. Nid wrth y cwmni fferi ei hun, St Peter's Line ond wrth fath o gwmni bwcio, Direct Ferries, sy'n rhedeg y byd yn rhoi gwybodaeth a gwasanaethau i deithwyr fferi. Tua phythefnos yn ôl. Wel, prynais rywbeth. Aeth yr arian o fy manc ond ni ddaeth un rhywbeth o St Peter's Line. Daeth neges o Direct Ferries i ddweud, Wps, rhywbeth wedi digwydd! Dych i mwyn (sori Milla!) ein bod ni'n trio eto? Wedi talu, wrth gwrs!

Felly, ar ôl dibyn, daeth neges o Direct Ferries, yn gynnwys rhif bwcio, gyda nhw, a rhif bwcio St Peter's Line a rhai manylion. Ond dim enw o'r Llong, neu ba Terminal. A, mwy difrifol, dim neges o St Peter's Line ei hun.

Dwedodd yr e-bost bod rhaid i fi gyrraedd y porth 180 munud cyn hwylio. 180 MUNUD! Tair awr, 05.30 yn y bore. Wnes i sgrechian i Roland, a Milla, ymhen deng munud. Wnaeth Roland ymchwil. Na, dim ond 90 munud, awr a hanner, 7.00. Roedd yr e-bost o Direct Ferries yr un cyffredin, dim meddwl pa gwmni. Mae St Peter's Line yn dweud 90 munud. Dyna well.


Pa Terminal? F'ymchwilwr gorau, Roland, wedi darganfod, Terminal 1. Wedi anfon google map gyda co-ordinates. Mae Milla a fi wedi gadael ei fflat tua 06.10 a wedi cymryd y tram i'r borth a wedi dod o hyd terminal 1. Oedd e bron yn wag, dim ond gwrp bach o Almaenwyr, ac nid oedd Check In yn agor, ond nid oedd e 7.00 eto. 7.00, agorwyd Check In. Aeth arwainwraig yr Almaenwyr. Aethon ni, gyda fy neges wrth Direct Ferries. Rhaid i chi fynd i Terminal 2, 700 metr lan y stryd. Aethon ni, yn gyflym. Yn Terminal 2 roedd llawer o bobl, yn mynd i Tallinn, gyda Tallink ac Ekoburg, ond doedd dim arwydd o St Peter's Line. A nid oedd arwydd neu berson gyda gwybodaeth i'n helpu ni. Wnaethnon ni stopio dyn a dangos yr e-bost. Nid oedd e'n o gymorth. Trion ni ffonio St Peter's Line. Dim ond mewn oriau busnes. Yr oedd y stres yn codi! Roedd y munudau yn mynd hebio.

Yn y diwedd aethon ni i gwmni arall, Tallink. Ei Check In wedi cau, ond oedd merch hyfryd a oedd yn deall ein problem ac oedd yn fodlon i'n helpu ni. Pa gwmni? St Peter's Line. Dych chi'n gwybod enw'r llong? Princess Anastasia. Tipyn o ymchwil ar ei chyfrifiadur. Mae flin 'da fi ond mae rhaid i chi ddychwelyd Terminal 1.

Felly, aethon ni'n ôl. Darllenodd y ferch yr e-bost yn fwy gofalus, a wnaeth hi Boarding Pass. Ond nid oedd ymddiheuriad.

Aeth Milla a fi lan yr escalator ac arhoson ni am biti, cyn agorwyd boarding. Ac, yn y diwedd, oedd popeth yn iawn.

Milla, y mae WiFi ar gael, gyda Marinesat. Roedd e ar gael ar y fferi Shanghai i Kobe. 50 Yuan, tua €6, 72 awr. Ar Princess Anastasia, $13.99, 6 awr. Does dim rhif neu docyn 24 awr! Byddaf i'n byw hebddo fe am dipyn.