Friday 6 October 2017

Siapan yw gwlad o anrhegion

Siapan yw gwlad o anrhegion. Pan oedd fy mam a fi yn Siop Blue and White, yn Tokyo, roedd anrheg bach o frethyn yn ogystal â'r brethyn a  brynwyd gan fy mam. Pan aethon ni mewn stiwdio cwiltiau, heb ddweud o blaen, roedd anrheg bach. Yn y stiwdio gweaf,  drws nesa, yn un peth. Yn y 'nagomi visits' roedd mwy o frethyn, pethau bach o origami. Ond, ar Shikoku, gwlad o 'henro', pererinion, mae pethau yn fwyach. Arian. Ffrwyth. Diod. Origami. Pot noodle yn ddiwetha. Llosins. A ddoe? Lifft i'r deml nesa. Mae'n anodd i ddweud sut dw i'n teimlo. Gallwn ni ddim eu gwrthod. Dyn ni'n rhoi cyfle i bobl i fod yn garedig. Fel arfer dw i'n ffili rhoi 'nameslip' yn ôl achos pethau'n digwydd mor gyflym. Y bai yw arna i.