Saturday 30 September 2017







Dydd Iau, y chweched o fy ngherfded o gwmpas Shikoku ro'n i'n croesi pont enfawr ar ddiwedd y dydd. Yn y bore gadaewais Kochi youth hostel, fy nghartref am wythnos i gymryd y bws i'r orsaf ar bwys teml 32, Zenjibuji. Ymwelais â hi dydd Mercher felly cerddais i syth at deml 33, Seikkiji a 34, Tanemaji. Doedd dim llety yno felly roedd rhaid i fi parhau i Tosa. Roedd y dywydd yn hyfryd ac ro'n i'n cario fy rucsac am y tro cyntaf. Ges i llawer o 'osettia', anrhegion bach, yn ystod y dydd. Llosins, te gwyrdd mewn tin, tangerin. Cwrddais dynion o Siapan, pererinion eiraill, pan ro'n ni'n aros am fferi bach. Roedd y dydd yn dda!

Chwarter wedi pedwar ac ro'n i'n ar y bont. Mae'n enfawr, gyda pafin mawr, dim llawer o drafnidiaeth ar y pryd. Roedd yr dyn ifancach Siapaneg, tua pum munud ar fy nghefn i. Gallwn i weld Tosa yn y bellter. Nid oedd y cynllun i ymweld â theml 36, doedd dim amser. Ond roedd popeth yn dda.

Ac ymhen hanner eiliad ro'n i'n ar y lawr, gyda lwmp mawr ar fy nhalcen, uwchben fy llygad chwith. Beth diwyddodd? Wnes i ddim golli ymwybyddiath, diolch byth, neu torri fy spectol, ond gallwn i ddim eu gwisgo oherwydd y lwmp. Ond roedd y rucsac ar fy nghefn o hyd felly roedd rhaid i fi dechrau eistedd, cyn sefyll. Nid o'n i gwisgo yr het, mae'n anodd gyda'r rucsac ar y un tro. Ond daeth menyw ifanc i fy helpu. Welais ei beic hi. Gyda llawer o le ar y pafin mae hi wedi llwyddo fy mwrw i i'r lawr.

Roedd hi, a fi, mewn sioc! Pan welodd fy mod i ddim o Siapan, 'Sori, sori!' Gaeth hi help i fi i symud fy mag. Daeth y henro (pererin yn Siapan) arall ac rhoiodd dwr i olchi fy llaw chwich, y nwcls, a fy mhenelin, y ddau wedi gael eu hysgrafio. Ond roedd fy mhen y waethaf, gyda poen  a'r lwmp yn tyfu.

Ond, ymlaen! Nid oedd llawer o waed. Allwn i ddim aros. Roedd rhaid i fi ffeindio rhwle i aros. Pan es i i mewn y dre,  cerdded, welais yr ail pererin, y hynaf. Oedd e'n mynd i'r deml ond, ar yr ail tro, roedd gwely ar gael yn Tosa Business Hotel.

Ymhen awr roedd cwmni iswiriant, dwy awr tri heddwas a thair awr yr ysbyty.

Ond dyna stori arall! Dw i'n iawn. Paid a phoeni amdana i.

Tuesday 19 September 2017


Tair wythnos yn ôl roedden ni'n Shanghai, fi a fy mam. Mewn llawer o hostels yw le ble pobl yn gadael negeseueon o'u dinasoedd. Nid oedd neges o Gymru, ond nawr, mae yn.


Tuesday 12 September 2017



Fy mam ac ein ffrind Kazumi ac ei merch yn hyfraith

Felly, oedd ddoe'n hyfed. Mae cymni bach yn trefnu ymweliadau ar gyfer dieithriaid i dai a theuluoedd Siapaneg, er mwyn croesaui pobl i Siapan a chael profiadau diwyllianol.

Cwrddwyd ni gan Kazumi ar orsaf trên agosaf i'w thŷ hi, Neyagawashi, ac ro'n ni'n dim ond tair mynud un hwyr, ar ôl daith hir dros Kyoto tuag Osaka. Aethon ni yn ei char hi at ei thŷ le cwrddon ni ei mab (meddyg),  ei wraig (linguist, mam a gwraig tŷ) ac eu meibion bach nhw.


Ymhen pum munud ar ôl wedi cyrrhaedd, roedd reis sushi ar y bordd gyda nori, a llysiau fel moron, madarch, ciwcwmbr wedi eu torri mewn rhannau hir a chul, crab sticks, sliced omled wedi torri, ac oedden ni gwneud sushi. Ymhen hanner awr oedden ni'n ei fwyta.

Ymhen dwy awr oedd fy mam yn gwisgo kimono grand, ac edmygu y waith arbenning o dda o'n host. Mae hi'n gwneud textiliau gwych, patchwork, cwiltiau, pethau bach o hen gimono ei fam ac ei hun. Rojedd y prynhawn arbennig o dda.

Os dych chi'n mynd i Siapan, Nagomivisit.com. Bydd ymweliad arall dydd Sul nesa tn Tokyo.

Wednesday 6 September 2017

Mae wedi bod môr hyfred i weld fy mam yma yn Shanghai. Hedfanodd hi o Lundain nos Fawrth a chyrhaeddais i o Wuhan ddoe. Dyn ni'n aros yn Hostel Phoenix tan dydd Sadwrn cyn iddi ni mynd â'r fferi i Siapan. Daeth hi gyda dau gerdyn debit, un gerdyn SIM sy'n drud iawn ond sy'n gweithio yn Siapan, un gerdyn YHA ac un tocyn i gyfnewid, yn Siapan, am ddefnyddio ar yr rheilffyrdd. Drud iawn eto. Neithiwr ro'n ni'n ar llong bach ar yr afon, gyda miloedd o bobl eraill ond nid oedd e'n boeth, y tro cyntaf am fisoedd.

Ysgrifennwyd wythnos diwetha yn Shanghai le, yn ogystal â difyg o FB, does dim Blogger hefyd, fel rhan o byd Google. Nawr dyn ni'n yn Kyoto yn Siapan.