Thursday 26 January 2017

Mis Prysur

Wel, roedd y parti yn hyfryd. Daeth ffrindiau hen a newydd o bobman i fwynhau bwyd, diod a chwmni da. Roedd ffrindiau o waith, o SSIW, o'r byd nyddwyr a dysgu Cymraeg. Daeth nofwyr a chymdogion o'r pentre’ a'r gorau o bopeth, daeth fy merch o Lundain a'i chariad. Roedd fy ngŵr prysur yn y bore gyda pharatoi bwyd. Daeth pobl ag anrhegion o lyfrau (Cymraeg a Gwau), blodau, llawer o flodau, bisgedi, siocled, ffyj mêl, cacennau cwpan, canhwyllau a cwtchys mawr. Roedd y diwrnod yn hir a hyfryd.

Ar ers hynny dw i wedi bod yn paratoi fy nhaith fawr i Asia. Ti ddim wedi clywed amdano?
Felly, ers 21 Ionawr dw i wedi bod yn cadw rhestr o'r pethau dw i wedi prynu am fy nhaith fawr. Os dw i'n dweud London Berlin, Berlin Warsaw, yswiriant teithio, fisa Rwsiaidd, Viciebsk Moscow, Mabinogi, Hedd Wyn, pum nos yn Ulaan Baator mewn AirBnb, Moscow Mongolia Beijing, Warsaw Viciebsk, fisa Mongolaidd, lluniau fisa, Airbnb Beijing, fisa Belarws, fisa Tsieineaidd, cadw hedfan (heb fwriad i hedfan o gwbl), chwe noson yn Wuhan, a Beijing Wuhan Kunming efallai ryw ti'n deall tipyn o'r daith. Ac mae'r daith honno yn dim ond 5 wythnos hyd yn hyn a dw i wedi talu am naw mis o yswiriant.




Monday 2 January 2017

Parti Penblwydd

Ar ôl Nadolig a'r dathliad Blwyddyn Newydd yn dod fy mhen blwydd, a dydd Sadwrn nesa bydd fy mharti. Do'n i ddim wedi cael parti yn gyson tan o'n i'n pumdeg, a hyd yn oed ers hynny dim bob blwyddyn.

Felly, rhwng 'Dolig a'r Flwyddyn Newydd creais i rwp ar Facebook i wahodd ffrindiau i'r parti. Bydd Roland yn rhoi bwyd ar y bwrdd, a bydd pobl yn dod â bwyd a diod gyda nhw. I rai sy'n heb dudalennau FB dw i wedi anfon e-byst neu hyd yn oed dw i wedi gofyn iddyn nhw wyneb i wyneb. Dw i'n eistedd gartref ar hyn o bryd yn aros am ateb i neges ar fforwm SSIW 'sgrifennais i neithiwr ond ar ôl yr ateb yn dod bydda i grwydro'r pentref a gofyn fy nghymdogion. Gyda thŷ eitha bach bydd y parti yn parhau dros y dydd ond gobeithio heb ormod o bobl ar 'r un tro. Felly, os rydych yn yr ardal dydd Sadwrn nesa, croeso i chi i ymweld â ni, rhwng hanner dydd a deg yn y nos.