Monday 10 April 2017

Sens of Entitlement

Mae gen i "Sens of Entitlement," dw i'n siomedig i ddweud. Sa i'n hoffi fy hunan ar ôl i fi sylweddoli. Ar ôl wythnosau teithio heb broblemau o gwbl. Cyn i fi adael Brydain roedd popeth wedi'u trefnu. Pob tocyn, pob gwely, pob fisa tan cyrhaeddais i Kunming, 07.17 dydd Iau diwetha, ar ôl 23 awr ar y trên. Ac ers y pum dwirnod diwetha' mae pob cynllun, yn fy mhen, wedi'u mynd i'r wal.

Ro'n i'n disgwyl dod o hyd y metro yn Kunming i fynd i'r orsaf bws, ond wnes i ddim ei weld. Welais yr un orsaf bws canolig welon ni yn 2012 ond sa i'n cofio'r rhyf bws i fynd i'r orsaf bws de Kunming. Yn y ddiwedd, es i, ar ôl cyngor, ar y bws anghywir, i'r orsaf trên de Kunming. Yn yr orsaf bws drws nesa ges i gyngor well a bws arall i'r le cywir.

Felly, doedd dim tocyn ar gael i Huy Xai neu i Vientiane. Doedd dim unrhywun trio ffindio teithwyr eraill i fynd i Thailand. Roedd y wybodaeth yn awgrymu 20 bws y dwirnod i Jinghong, a sawl arall, tu hwnt, i Mahon(China)/Boten(Laos). Ond, ar y dwirnod, roedd un bws, i Mahon, yn gadael 8 o'r gloch yn y nos. 7 awr yn aros. I gyrraedd Mahon tua 12 neu 13 awr yn hwyrach.

Wel, 14 awr yn hwyrach, ro'n i'n yn Mahon. Yn ffoddus, nid oedd problemau ar y fin. Gadael China, prynu fisa i fynedu Laos. Mynd i Laos.

Mae'r llawer o lwch ac ormod o boeth, ond does dim bws, neu arwydd o fws, neu orsaf bws. Dw i'n ffeindio fy hun yn crwydro o gwmpas y le, yn y boeth dros ben, yn chwilio am wybodaeth. Yn y diwedd dw i'n cael fy anfon i'r siop enfawr Duty Free, llawn gyda thwristiaid sy'n dychwelyd i Tseina. Ond, rhai o'r weithwyr yn siarad Saesneg. Ac yr un gyda Saesneg gorau, yn rhoi gwybodaeth defnyddiol i fi. Os dw i'n sefyll ar y ffordd, gyda arwydd, Huy Xai, ac ymddangos yr arwydd i yrrwyr, efallai, bydd yr gyrwyr yn rhoi lifft i fi. Ac mae'n gweithio. Y tro cyntaf, gyda bws cyntaf.

Ar ôl 6 awr dw i'n ar y fin rhwng Laos a Thailand. Aros yn Laos, neu Thailand. Wnes i gamgymeriad am y diwedd y daith. Roedd e yn y dre neu ar ben Bont Cyfeillgarwydd? Oedd e yn y dre, ar ôl yr orsaf bws.

Lifft, wedi'i drefnu gan y gyrrwr, yn ôl i'r orsaf bws. Tuk Tuk, y gyntaf fy nhaith, i'r Bont. Eto, dim problem croesi'r fin. Ond mae'n hwyr nawr, a mae rhaid i fi talu arian ychwanegol oherwydd yr awr. Un dollar i adael Laos. 25 Baht, ac undeg pump mwy, i groesi'r Bont dros y Mekong. A dim problem, gyda fisa yn barod, mynedu Thailand. 60 baht, a 40 baht oherwydd yr awr, am Tuk Tuk i'r dre ei hunan. Dim problem ffeindio noson mewn gwest bach, ond roedd mwy o broblem yn gadael ddoe.

Pan cyrhaeddais i welais hysbyseb am sut i deithio i Chiang Mai. Ond nid oedd wybodaeth yn ogystal â'r hysbyseb, hyd yn oed fy cwestiynau. Yn ôl i'r WiFi. Mae bws yn gadael 10.30 yfory (ddoe). Cyn 9 yn y bore, ro'n i'n yn yr orsaf bws i brynu tocyn. Ond mae pob un wedi mynd. Does dim mwy ar gael tan yfory. Mae bws arall yn gadael,  ymhen hanner awr, o'r orsaf bws drws nesa, dim i Chiang Mai ond i Chiang Rai, a fydd mwy o fyses fynd i Chiang Mai. Mae rhaid i fi frysio ond gyda 30 o eiliaid, dw i'n ar y bws.

Dw i'n cyrraedd Chiang Rai i weld bws yn gadael am Chiang Mai. Dwy awr yn Chiang Rai o dan gysgod sy'n o dan yr boeth dros ben eto, cyn y bws nesa i Chiang Mai. Syth i'r orsaf trên. Yn ôl yr amserlen ar y we mae dwy trên eraill yn rhedeg heno I Bangkok. Ond, yn ôl y toccynwr, does dim trên, a mwy pwysig, does dim tocyn tan yfory/heddiw. A does dim tocyn o Bangkok i Surat Thani tan yfory. Felly, roedd rhaid i fi fynd yn ôl i'r dre. Gwesty cyntaf, £80 y nos. Dim i fi. Ail westy, le arhosais gyda Rachel, £26. Roedd 50 baht i'r bunt yn 2013, 42 nawr.

Bore ma, pan es i nôl i'r orsaf trên, roedd tocyn ar gael o Bangkok i Surat Thani, heno. Dim sleeper, mae rhaid i fi eistedd i Bangkok heddiw, 10 awr, ac o Bangkok heno, 9 awr.

Mae "Sens of Entitlement" 'da fi. Dw i'n disgwyl pethau yma i weithio fel 'clockwork', ond dw i ddim gatref ar hyn o bryd. Dw i wedi cael ail, ac ar fi yw'r bai. Fi yw person anrhesymol. Dw i wedi teithio i rhywle gwahanol ond yn disgwyl pethau i fod yn union fel adref.





No comments:

Post a Comment