Monday 13 March 2017

Stori fer yn 50 gair. Ysgrifenwyd mewn parc, Vitebsk

Pa Barc?
Yr un lawr y bryn, mawr, tywyll, cyfrinachol.
Neu'r llall, agored, digon o feinciau, rhai pobl.
Y fenyw sy'n eistedd drws nesa i fi, hi heb Gymraeg, fi heb Rwsieg, ond dyn ni'n rhannu'r mainc a'r haul, ac yn gwybod bod rydyn ni byth yn deall ein gilydd.

No comments:

Post a Comment