Thursday 9 March 2017

Esperanto ~ Gobaith ~ Hope

Nid ydy pedwar awr digon yn yr amgueddfa am y hanes Iddewon yn Wlad Pôl. Sa i'n gallu dweud oedd y stori'n hapus neu lwyddiannus, ond mae'n ddiddorol dros ben. Wnes i bob math o gysylltiad rhwng eu hanes â'r stori ffoaduriaid ein hoes.

Tra gerdded nôl i'r hostel neithiwr welais sawl bws a oedd yn mynd i Esperanto. Mae'n debyg mae'n ardal yn Warsaw. A chofiais y stori a glywais echdoe. Gaeth Esperanto ei dyfeisio gan ddyn o Warsaw, sef Ludwik Zamenhof, Iddew. Mae'n hawsach na Chymraeg!


No comments:

Post a Comment