Wednesday, 23 November 2016
Mae'n anodd credu pa mor wahanol...
...oedd y ddau noson diweddaf. Ar un shifft roedd tair o phobl sâl iawn. Daeth un ohonomm yn sâl yn ystod yr oriau cyn dechreuodd fy shifft, roedd un yn sâl yn ystod y shifft ac roedd trydydd bron ar ffin i gael llawdriniaeth yn yr oriau man. Ond, roedd pawb dal yn byw yn y bore. A heno, mae popeth yn dawel...ssshhhhhhh. Peidiwch â dweud, ond fy hoff shifft yw rhywle yn y ganol. Bob nos fel nawr? Diflas. Bob nos fel neithiwr? Dim diolch. Ni fydd un nyrs, neu glaf, yn haeddu nosonau fel hwnna.
Wednesday, 9 November 2016
Sa i'n gallu dechrau disgrifio...
...fy nheimladau ar hyn o bryd. Mae'n eitha dawel ar y ward ond, mewn cornel, mae'r canlyniadau America yn cael eu cyhoeddi. Yn araf. Hi yw'r gyntaf, nawr fe yw'r cyntaf. Fe, sy ddim wedi rheoli neuadd y dre. Ddim wedi rhedeg am swydd. Sy'n meddwl bod e'n iawn broli am ymbalfalu menywod, menywod fel fy merch, neu dy nith neu chwaer. Sy'n meddwl am adeiladu wal yn erbyn ei gymydog drws nesa. Sy'n mwyn cofrestru pob Mwslim yn America, neu gadw nhw mas yn y lle cyntaf. Dw i'n gweddi ar hyn o bryd, ond, mae flin 'da fi i ddweud, heb hyder.
Saturday, 5 November 2016
Ar y trên i Lundain ...
Trên 1 - Tra aros yng Nghaerfyrddin welais fy ffrind Tony. Roedd e'n disgwyl Almaenwr (ifanc?) i helpu â'r fferm.
Trên 2, nawr. Roedd y cynllun i ddal y trên yn Abertawe a mynd i Lundain heb newid trenau - ond - does dim rheolwr ar a trên hwn. Felly, symudwyd y teithwyr i drên lleol, Abertawe i Gaerdydd - lle bydd rhaid i ni symud yn ôl i'r trên Abertawe - Lundain, gyda'i rheolwr, dw i'n gobeithio.
Ond (eto), mae Cymru newydd golli yn erbyn Awstralia a bydd miloedd o gefnogwyr anhapus ar ffin gadael â'r un pryd a fi.
Bydd caos!

Monday, 31 October 2016
Pam rydw i'n gadael waith yn hwyr heddiw, a bob bore?
Wel, gyda llawer o nyrsys sy'n gweithio ar gyfer asiantaethau a'r niferoedd o nyrsys newydd ar y ward yn tyfu. Mae'r cleifion yn cwrdd â nyrsys newydd beunyddiol. Felly, mae rhaid i fi eu cyflwyno nhw gyda'i gilydd. Mae rhaid i fi egluro'r siartiau a'u problemau iechyd. I ddweud sut maen nhw'n cerdded neu fwyta.
Ond heddiw collais ddarn bach o bapur. Dim ond darn, ond darn pwysig. Mae rhaid y GIG yn cadw fe am 30 o flynyddoedd. Roedd rhaid i fi ei llenwi fe, lofnodi fe, a'i anfon yn ôl i swyddfa. Hanner awr o chwilio mewn biniau cyn i fi fe ffeindio mewn basn cardbord ar fin cael ei daflu mewn macerator.
Felly, dyma reswm nid es i nofio bore 'ma. Ond yfory, bydd rheswm arall, a'r dydd nesa.

Saturday, 22 October 2016
Cofio Aberfan
Dw i newydd 'sgrifenni ar y fforwm SSIW am Aberfan. Dw i ddim yn cofio'r dydd, y dagrau, y digwyddiad, ond sa i'n gallu cofio amser cyn i fi wybod am y trychineb. Ro'n i'n pump oed ar y tro a byddai fy rhieni wedi ein gwarchod, a'u hunain, yn erbyn y newyddion. Oherwydd, mae'r cysgod Aberfan wedi fy nghysgodi fy holl fywyd. Dim yn gryf, dim yn aml, ond nawr, wrth gwrs, mae'n o flaen y newyddion. Dw i'n cofio gwneud ymchwil deng mlynedd yn ôl, 40 mlynedd ar ôl y digwyddiad ac erbyn hynny o'n ni'n byw yng Nghymru. Welais i raglenni a chlipiau ar y teledu ac ar Youtube.
Ges i f'atgoffa o ddigwyddiadau yn Tsieina dros y blynyddoedd. Plâu, trychinebau gydag elfennau ac achosion dynol. Ysgolion wedi'u hadeiladau mewn ardaloedd daeargrynfâu, i'r safonau isel, i osgoi gwario arian, fel rhan o system lygredig.
Bydd yr arian yn ennill bob tro a bydd y tlawd yn dal yn dioddef.

Saturday, 15 October 2016
Roedd rhaid i fi dalu £17.80....
achos dw i ddim yn mynd i'r llyfrgell cymaint â dylwn.
Roedd y camgwl achos fy mod i wedi cadw dau lyfr am fisoedd. Cymraeg, y ddau ohonynt, ond roedd eu prisiau i gyd llai na £17.80. Mae llyfrgelloedd Sir Gar yn cael fy nghyfeiriad e-bost ond ni ddaeth unrhyw neges i ddweud am yr arian. Mewn tŷ gyda chymaint o lyfrau mae'n haws i'u golli nhw am sbel.

Saturday, 8 October 2016
Cymdeithas Edward Llwyd
Subscribe to:
Posts (Atom)