Monday 31 October 2016

Pam rydw i'n gadael waith yn hwyr heddiw, a bob bore?

Wel, gyda llawer o nyrsys sy'n gweithio ar gyfer asiantaethau a'r niferoedd o nyrsys newydd ar y ward yn tyfu. Mae'r cleifion yn cwrdd â nyrsys newydd beunyddiol. Felly, mae rhaid i fi eu cyflwyno nhw gyda'i gilydd. Mae rhaid i fi egluro'r siartiau a'u problemau iechyd. I ddweud sut maen nhw'n cerdded neu fwyta.

Ond heddiw collais ddarn bach o bapur. Dim ond darn, ond darn pwysig. Mae rhaid y GIG yn cadw fe am 30 o flynyddoedd. Roedd rhaid i fi ei llenwi fe, lofnodi fe, a'i anfon yn ôl i swyddfa. Hanner awr o chwilio mewn biniau cyn i fi fe ffeindio mewn basn cardbord ar fin cael ei daflu mewn macerator.

Felly, dyma reswm nid es i nofio bore 'ma. Ond yfory, bydd rheswm arall,  a'r dydd nesa.

No comments:

Post a Comment