Saturday 22 October 2016

Cofio Aberfan

Dw i newydd 'sgrifenni ar y fforwm SSIW am Aberfan. Dw i ddim yn cofio'r dydd, y dagrau, y digwyddiad, ond sa i'n gallu cofio amser cyn i fi wybod am y trychineb. Ro'n i'n pump oed ar y tro a byddai fy rhieni wedi ein gwarchod, a'u hunain, yn erbyn y newyddion. Oherwydd, mae'r cysgod Aberfan wedi fy nghysgodi fy holl fywyd. Dim yn gryf, dim yn aml, ond nawr, wrth gwrs, mae'n o flaen y newyddion. Dw i'n cofio gwneud ymchwil deng mlynedd yn ôl, 40 mlynedd ar ôl y digwyddiad ac erbyn hynny o'n ni'n byw yng Nghymru. Welais i raglenni a chlipiau ar y teledu ac ar Youtube. 

Ges i f'atgoffa o ddigwyddiadau yn Tsieina dros y blynyddoedd. Plâu, trychinebau gydag elfennau ac achosion dynol. Ysgolion wedi'u hadeiladau mewn ardaloedd daeargrynfâu, i'r safonau isel, i osgoi gwario arian, fel rhan o system lygredig. 

Bydd yr arian yn ennill bob tro a bydd y tlawd yn dal yn dioddef.

No comments:

Post a Comment