Tuesday 6 December 2016

Gwasanaeth Taize yn yr eglwys heno.

Ar ôl symud i Gymru dw i'n cofio bod yn eitha anhapus gyda beth oedd yn ar gael yn lleol yn fy mywyd ysbrydol. Dw i'n cofio gofyn i'r caplan yn yr ysbyty am wasanaethau Taize, ac, or ôl tipyn, daeth gwybodaeth am ddigwyddiad mewn eglwys mawr yng Nghaerfyrddin. Roedd eglwys bach yn y cefn gwlad, tu hwnt y cefn gwlad, yn cynnig Gwasanaeth Taize. Yn ogystal â'r awr yng Nghaerfyrddin roedden nhw cael eu ddigwyddiadau eu hunain teirgwaith y flynydd yn eu heglwys. Felly, wnes i ddechrau gyrru trwy'r mynyddoedd Brechfa yn eitha gyson. Wel, mae pethau wedi newid, pobl wedi symud ymlaen, a does dim sôn am Taize yn Llanfihangel Rhos y Corn nawr. Ond, yn y cefn gwlad tu hwnt y cefn gwlad, mae labrinth nawr. Dw i'n mynd â bron bob ymwelwr i weld y'r adeilad, y fynwent a'r labrinth.

Sawl blwyddyn yn ôl daeth gwasanaethau Taize i'r ardd fotaneg. Roedden nhw poblogaidd iawn ac oedden nhw'n codi arian ar gyfer Cytûn, eglwysi gweithio gyda'u gilydd yn Nghymru. Ar ôl tair gwasanaeth symudodd y ficer ymlaen a fi oedd yr arweinydd am tua blwyddyn. Ron i'n rhedeg dau yn fwy lleol hefyd, yng Ngorslas ac yn Cross Hands. Roedd rhaid i ganslo y trydydd pan dorrais fy ngoes a ni dechreuais eto.

Tan nawr. Neithiwr. Roedd rhaid i fi brynu recorder newydd, a lyfrau Taize newydd. Ond, mae Taize wedi dychwelyd i fy mywyd!  Dw i'n wrth fy modd!

No comments:

Post a Comment