Wednesday 21 December 2016

Beth Fraint!

Dw i wedi cael y fraint , ers dydd Gwener diwetha, i gwrdd â theulu newydd gyrraedd o Syria, teirgwaith.
Does dim llawer o Saesneg gyda nhw, ond mwy Saesneg na fy Arabeg. Maen nhw'n yma ar y cynllun llywodraeth San Steffan i dderbyn 20,000 teuluoedd o'r gwersylloedd yn y Canol Dwyrain yn ystod y pum mlynedd nesa. Yn ôl y ffigurau does dim rhaid i Sir Gar i dderbyn mwy nag ugain o deuluoedd ond dw i'n mwyn llongyfarch pwy bynnag wedi awgrymu i'r cyngor i dderbyn chwedeg, ac i'r cyngor sy wedi derbyn y syniad yn unfrydol. Mae'r teulu mor neis, mor garedig, mor awyddus i ddysgu Saesneg, i weithio.
Daethon nhw i fy nhŷ heddiw i ddefnyddio'r ein Wi Fi i siarad â theulu yn Iraq ac yr Almaen. Bwyton nhw fwyd coginiwyd gan fy ngŵr a phan es i â nhw gartre roedd rhaid i fi dderbyn bwyd wedi eu coginio gan fam y teulu. Gyda dim byd, maen nhw'n rhoi o'u calonnau.

No comments:

Post a Comment