Monday, 6 March 2017
Stori Fer. Ysgrifenwyd ar y trên rhwng Berlin a Warsaw.
"Dw i'n teithio ar fy mhen fy hun," gan Samuel Bjork. Ond mae hi'n teithio gyda Samuel Bjork, ei hanes ei hun, gyda gobeithion a phryderau ei theulu ac ei ffrindiau. Ac mae hi'n teithio gyda'r felltith ein oes, fel fi, ac yn cwyno am brinder cydymaith mewn ystafell teithwyr.
Sunday, 5 March 2017
Pwy sy'n nabod Beth o Landeilo?
Hi oedd yr arweinydd taith cerdded o gempas Berlin heddiw a o'n i'n arno. Roedd hi'n arbennig o dda gyda'r hanes o'r dinas ac yn egluro beth oedd yn digwydd mewn cyfnodau gwahanol rhwng Prussia, yr Almaen, Russia, Gwlad Pol ayyb.
Aeth Beth i'r ysgol Tregib, nesa i brifysgol Warwick ac ers chwech mlynedd wedi byw ym Merlin. A mae hi'n siarad Cymraeg, wrth cwrs.
Aeth Beth i'r ysgol Tregib, nesa i brifysgol Warwick ac ers chwech mlynedd wedi byw ym Merlin. A mae hi'n siarad Cymraeg, wrth cwrs.
Saturday, 4 March 2017
Dw i'n gadael heddiw.
Ar ôl misoedd yn paratoi, miloedd o bunoedd, ac wythnosau yn poeni am un fanwl neu fisa, dw i'n ar fy ffordd heddiw. Hanner awr yn ôl cyrhaeddodd fy mam a fi Kings Cross St Pancras ac ymhen awr bydda i rhwng Llundain a Brussels. Heno bydda, gyda gobaith, yn Berlin. Dw i'n nerfus a chryffrous. Dwedais Hwyl Fawr i fy ngwr a fy mab ddoe cyn aethon nhw nôl i Gymru ac echdoe oedd pryd o fwyd mawr gyda 15 ohonom. O fy ngwmpas fi yw canoedd o deithwyr eraill sy'n dechrau eu anturiaethau hefyd. Mae'r byd yn llawn gyda phobl i gwrdd a lleoedd i weld.
Monday, 20 February 2017
Ond rwyt ti'n Enwog!
Fel hap a damwain wnes i gwrdd âg Aneurin Karadog ddoe. Daeth e i'r tŷ teulu Syria pan o'n i'n yno ym Mhontyberem. Mae e wedi cwrdd a nhw sawl gwaith ers cyrrhaeddon nhw i'r ardal. Fe yw rhan o'u hoff deuluoedd lleol, ond mae pob un o'r teuluoedd y maen nhw'n nabod yw eu hoff deulu. Fi, Polly, Carla, Annette, Steve, Aneurin, Laura.
Wednesday, 8 February 2017
Gwaith Cartref, Stori fer mewn 50 o eiriau.
Daeth y gyntaf o Tsiecoslofacia a'r drydedd o Slofenia, ond roedd y gwreiddiol un o'r Alban.
Y menywod yn ei fyd.
Croesodd pob un o'i neiniau a theidiau'r moroedd a thyfon nhw'r wlad lle nawr maen nhw'n tyfu waliau yn erbyn y byd.
Yn yr Alban maen nhw'n tyfu pontydd.
Y menywod yn ei fyd.
Croesodd pob un o'i neiniau a theidiau'r moroedd a thyfon nhw'r wlad lle nawr maen nhw'n tyfu waliau yn erbyn y byd.
Yn yr Alban maen nhw'n tyfu pontydd.
Thursday, 26 January 2017
Mis Prysur
Wel, roedd y parti yn hyfryd. Daeth ffrindiau hen a newydd o bobman i fwynhau bwyd, diod a chwmni da. Roedd ffrindiau o waith, o SSIW, o'r byd nyddwyr a dysgu Cymraeg. Daeth nofwyr a chymdogion o'r pentre’ a'r gorau o bopeth, daeth fy merch o Lundain a'i chariad. Roedd fy ngŵr prysur yn y bore gyda pharatoi bwyd. Daeth pobl ag anrhegion o lyfrau (Cymraeg a Gwau), blodau, llawer o flodau, bisgedi, siocled, ffyj mêl, cacennau cwpan, canhwyllau a cwtchys mawr. Roedd y diwrnod yn hir a hyfryd.
Ar ers hynny dw i wedi bod yn paratoi fy nhaith fawr i Asia. Ti ddim wedi clywed amdano?
Felly, ers 21 Ionawr dw i wedi bod yn cadw rhestr o'r pethau dw i wedi prynu am fy nhaith fawr. Os dw i'n dweud London Berlin, Berlin Warsaw, yswiriant teithio, fisa Rwsiaidd, Viciebsk Moscow, Mabinogi, Hedd Wyn, pum nos yn Ulaan Baator mewn AirBnb, Moscow Mongolia Beijing, Warsaw Viciebsk, fisa Mongolaidd, lluniau fisa, Airbnb Beijing, fisa Belarws, fisa Tsieineaidd, cadw hedfan (heb fwriad i hedfan o gwbl), chwe noson yn Wuhan, a Beijing Wuhan Kunming efallai ryw ti'n deall tipyn o'r daith. Ac mae'r daith honno yn dim ond 5 wythnos hyd yn hyn a dw i wedi talu am naw mis o yswiriant.

Monday, 2 January 2017
Parti Penblwydd
Ar ôl Nadolig a'r dathliad Blwyddyn Newydd yn dod fy mhen blwydd, a dydd Sadwrn nesa bydd fy mharti. Do'n i ddim wedi cael parti yn gyson tan o'n i'n pumdeg, a hyd yn oed ers hynny dim bob blwyddyn.
Felly, rhwng 'Dolig a'r Flwyddyn Newydd creais i rwp ar Facebook i wahodd ffrindiau i'r parti. Bydd Roland yn rhoi bwyd ar y bwrdd, a bydd pobl yn dod â bwyd a diod gyda nhw. I rai sy'n heb dudalennau FB dw i wedi anfon e-byst neu hyd yn oed dw i wedi gofyn iddyn nhw wyneb i wyneb. Dw i'n eistedd gartref ar hyn o bryd yn aros am ateb i neges ar fforwm SSIW 'sgrifennais i neithiwr ond ar ôl yr ateb yn dod bydda i grwydro'r pentref a gofyn fy nghymdogion. Gyda thŷ eitha bach bydd y parti yn parhau dros y dydd ond gobeithio heb ormod o bobl ar 'r un tro. Felly, os rydych yn yr ardal dydd Sadwrn nesa, croeso i chi i ymweld â ni, rhwng hanner dydd a deg yn y nos.

Subscribe to:
Posts (Atom)