Monday 2 January 2017

Parti Penblwydd

Ar ôl Nadolig a'r dathliad Blwyddyn Newydd yn dod fy mhen blwydd, a dydd Sadwrn nesa bydd fy mharti. Do'n i ddim wedi cael parti yn gyson tan o'n i'n pumdeg, a hyd yn oed ers hynny dim bob blwyddyn.

Felly, rhwng 'Dolig a'r Flwyddyn Newydd creais i rwp ar Facebook i wahodd ffrindiau i'r parti. Bydd Roland yn rhoi bwyd ar y bwrdd, a bydd pobl yn dod â bwyd a diod gyda nhw. I rai sy'n heb dudalennau FB dw i wedi anfon e-byst neu hyd yn oed dw i wedi gofyn iddyn nhw wyneb i wyneb. Dw i'n eistedd gartref ar hyn o bryd yn aros am ateb i neges ar fforwm SSIW 'sgrifennais i neithiwr ond ar ôl yr ateb yn dod bydda i grwydro'r pentref a gofyn fy nghymdogion. Gyda thŷ eitha bach bydd y parti yn parhau dros y dydd ond gobeithio heb ormod o bobl ar 'r un tro. Felly, os rydych yn yr ardal dydd Sadwrn nesa, croeso i chi i ymweld â ni, rhwng hanner dydd a deg yn y nos.

No comments:

Post a Comment