Friday 30 June 2017

Siapaneg

Ers mis dw i wedi bod yn dysgu Siapaneg. Nid ydy mor anodd ond dw i'n siwr fy mod i'n dysgu fersion siml iawn. Dw i'n defnyddio, achos does dim Say Something in Japanese, eto, modd Michel Thomas, a Memrise a Duolingo. Dw i wedi cwrdd â dyn o Siapan, sy'n dod i'r pwll nofio yn rheolaidd a dw i'n ymarfer brawddegau siml iawn gyda fe ac mae'n ymarfer gwella ei llafarsain Saesneg gyda fi. Chwarae Teg. Nid oes tystysgriff  gyda fi am fod athrawes, ond dw i'n dysgu pobl trwy'r amser. Tair wythnos yn ôl rhoiodd e bryd o fwyd i fi, Ploy a Putt, cyncydweithiwr a ffrind cyncydweithiwr yn y westy ble mae'n byw ers ei ymddeoliad. Roedd e'r rheolwr ffatri rwber am saith mlynedd ac oedd e'n hanner perchennog y ffatri hefyd. Y dyddiau hyn mae'n dysgu Saesneg, Thai ac yn cadw'n heini gan nofio chwewaith yr wythnos a chwarae tenis dwywaith.

2 comments:

  1. Diddorol iawn i wybod bo ti'n siarad Siapaneg nawr eto. Does dim pwysig os siml neu na, ti'n siarad. Da iawn ti! A mae'n gwych ti'n dysgu pobol Saesneg ar un waith hefyd.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch KnightGhost. Ar ôl i fi adael Thailand bydd mwy o Tsiena am bythefnos ym mis Awst cyn dwy fis a hanner, tua, yn Siapan. Maen nhw'n dweud does dim llawer sy'n siarad Saesneg yno, neu Gymraeg felly dyma fy rheswm i ddysgu'r iaith. Ond, wedi siarad am Gymraeg, dw i'n edrych ymlaen at weld Cymraes sy'n dod o Dycroes, Rhydaman, llai na pum milltir o fy nhŷ i.

      Delete