Saturday, 12 August 2017

Mae Ploy'n caru Charlie o hyd.

Mae Ploy wedi cadw popeth wedi ganwyd gan Charlie. Ei lyfrau, ei gyfrifiadur, ei fag. Llun gan ein mam. Ei lun o'r amlosgiad ac ei ludw. Ac mae hi wedi creu coeden deuluol hefyd.







Wednesday, 2 August 2017

Welais y deigr cyn welodd Putt hi...

mewn parc bach lleol. Mae hi'n o goncrete a nawr, ar ôl eistedd arni hi, does dim ofn ar Putt.

Monday, 31 July 2017

Yr Eleffantod ac y Big C

Dydd Gwener diwetha, gwyl cyhhoeddus, aethon ni i siop o'r enw Big C. Maen nhw'n dod yn wreithiol o France, o dan yr enw Carrefour. Sai'n gallu dychmygu dyfodol llwyddianus ym Mhridain gyda ein cysulltiadau rhwng canser a'r Big C yn Saesneg.

Ac ar y ffordd adre welon ni eleffantod gwyrdd.

Thursday, 27 July 2017

Mae plant yn hoffi anifeiliaid...

... ond does dim cyfle cadw anifeiliaid yn ystafell Ploy a Putt yma yn Surat Thani. Does dim gardd ac maen nhw'n gadael y tŷ am mwy na deg arw y diwrnod. Oherwydd, mae Putt yn mwynhau ei ymweliadau i Tha Sala a thŷ ei famgu a thadcu. Mae brawd Ploy yn byw drws nesa, yn y hen dŷ ei rhieni, gyda ei deulu o wraig a phump o blentyn. Dydd Llun diwetha roedd ffrind newydd yn aros am Putt.



Saturday, 8 July 2017

Ar fy ffordd 'nôl o'r pwll nofio.....,....

.....dw i'n gweld pethau diddorol. Ar draed y grisiau y pwll yw allor Hindŵaidd.

Nesa, ar draws y stryd, siop lleol. Mae Mart Teulu, Tesco Lotus a 7 Eleven ym mhoban. Pob un gyda'i ermig (periant) pwyso, ATM, a pheriant tocyn ffôn. Tu hwnt Mart Teulu dych chi'n gallu weld Gwesty 'One Hotel'. Mae Ken, Fy mhartner Siapanaidd, yn aros yma.


Rownd yr ail gornel yw fy hoff ddraig mewn teml Tseineaidd.



Friday, 30 June 2017

Siapaneg

Ers mis dw i wedi bod yn dysgu Siapaneg. Nid ydy mor anodd ond dw i'n siwr fy mod i'n dysgu fersion siml iawn. Dw i'n defnyddio, achos does dim Say Something in Japanese, eto, modd Michel Thomas, a Memrise a Duolingo. Dw i wedi cwrdd â dyn o Siapan, sy'n dod i'r pwll nofio yn rheolaidd a dw i'n ymarfer brawddegau siml iawn gyda fe ac mae'n ymarfer gwella ei llafarsain Saesneg gyda fi. Chwarae Teg. Nid oes tystysgriff  gyda fi am fod athrawes, ond dw i'n dysgu pobl trwy'r amser. Tair wythnos yn ôl rhoiodd e bryd o fwyd i fi, Ploy a Putt, cyncydweithiwr a ffrind cyncydweithiwr yn y westy ble mae'n byw ers ei ymddeoliad. Roedd e'r rheolwr ffatri rwber am saith mlynedd ac oedd e'n hanner perchennog y ffatri hefyd. Y dyddiau hyn mae'n dysgu Saesneg, Thai ac yn cadw'n heini gan nofio chwewaith yr wythnos a chwarae tenis dwywaith.

Wednesday, 14 June 2017